Wolfgang Amadeus Mozart
Wolfgang Amadeus Mozart | |
---|---|
Ganwyd | Joannes Chrysostomus Wolfgangus Theophilus Mozart 27 Ionawr 1756 Salzburg |
Bedyddiwyd | 28 Ionawr 1756 |
Bu farw | 5 Rhagfyr 1791 Fienna, Rauhensteingasse |
Man preswyl | Mozart's birthplace |
Dinasyddiaeth | Archddugiaeth Awstria, Prince-Archbishopric of Salzburg, yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, athro cerdd, pianydd, cerddor, organydd, fiolinydd |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Y Ffliwt Hud, Le nozze di Figaro, Don Giovanni, Così fan tutte, Die Entführung aus dem Serail, Symphony No. 40, Eine kleine Nachtmusik, Requiem |
Arddull | y cyfnod Clasurol, sardana, cerddoriaeth siambr, opera, symffoni |
Prif ddylanwad | Johann Joseph Fux, Johann Sebastian Bach |
Taldra | 1.63 metr |
Mudiad | y cyfnod Clasurol |
Tad | Leopold Mozart |
Mam | Anna Maria Mozart |
Priod | Constanze Mozart |
Plant | Karl Mozart, Franz Xaver Wolfgang Mozart |
Llinach | Mozart family |
Gwobr/au | Urdd y Sbardyn Aur |
llofnod | |
Roedd Wolfgang Amadeus Mozart (27 Ionawr 1756 – 5 Rhagfyr 1791) yn un o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol a diwyd y cyfnod Clasurol. Fe'i ganwyd yn Salzburg, Awstria a dechreuodd gyfansoddi darnau pan oedd yn bump oed. Pan roedd yn dal yn blentyn aeth ei dad, Leopold Mozart, ag ef i chwarae o flaen teuluoedd crand Ewrop. Mae'n bosibl fod yr holl deithio wedi achosi problemau iechyd iddo yn hwyrach yn ei fywyd.
Bu farw ym 1791 yn drychinebus o ifanc, yn dlawd, ond wedi cyfansoddi cannoedd o ganeuon sy'n adnabyddus hyd heddiw.
Ysgrifennodd Mozart 68 symffoni, 27 concerto piano, yn ogystal â choncerti i'r clarinet, y corn Ffrengig, yr obo, y fiola, y ffidil, y ffliwt a'r telyn.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Rhoddodd rhieni Mozart yr enw llawn Johannes Chrysostomus Wolfgangus Theophilus Mozart iddo. Ei dad oedd y cyfansoddwr o'r Almaen Johann Georg Leopold Mozart, oedd yn byw yn Awstria am rhan fwyaf ei fywyd.
Ei wraig oedd Constanze Weber. Caswsant chwech o blant, gan gynnwys Karl Thomas Mozart a'r cyfansoddwr Franz Xaver Wolfgang Mozart. Enwau eu plant eraill, bu farw yn eu plentyndod oedd Theresia Constanzia Adelheid Friedericke Maria Anna Mozart a Anna Maria Mozart (merched) a Johann Thomas Leopold Mozart a Raimund Leopold Mozart (bechgyn).
Gweithiau
[golygu | golygu cod]Operáu gan Mozart
[golygu | golygu cod]- Die Schuldigkeit des ersten Gebotes, K. 35 (1767)
- Apollo et Hyacinthus, K. 38 (1767)
- Bastien et Bastienne, K. 50 (1768)
- La finta semplice, K. 51 (1768)
- Mitridate, K. 87 (1770)
- Ruggiero (1771)
- Ascanio in Alba, K. 111 (1771)
- Betulia Liberata, K. 118 (1771)
- Il sogno di Scipione, K. 126 (1772)
- Lucio Silla, K. 135 (1772)
- Thamos, König in Ägypten (1773, 1775)
- La finta giardiniera, K. 196 (1774)
- Il rè pastore, K. 208 (1775)
- Zaide, K. 344 (1779)
- Idomeneo, K. 366 (1780)
- Die Entführung aus dem Serail neu Il Seraglio, K. 384 (1782)
- L'oca del Cairo, K. 422
- Lo sposo deluso, K. 430
- Der Schauspieldirektor, K. 486
- Le nozze di Figaro, K. 492 (1786)
- Don Giovanni, K. 527 (1787)
- Così fan tutte, K. 588 (1789)
- Die Zauberflöte, K. 620 (1791)
- La clemenza di Tito, K. 621 (1791)
Gweithiau eraill
[golygu | golygu cod]- Offeren rhif 15 ("Coroniad") (1779)
- Vesperae de Dominica (1779)
- Eine Kleine Nachtmusik (1787)
- Requiem (1791)
- Ave verum corpus (1791)
Requiem
[golygu | golygu cod]Ym 1791, dechreuodd Mozart ysgrifennu Requiem sydd yn gasgliad o ddarnau gerddoriaeth i dalu teyrnged i’r meirw. Ond tra bod Mozart yn ganol ysgrifennu ei waith, bu farw yn Vienna, Awstria ar 5 Rhagfyr. Cafodd y requiem ei gwblhau yn ddiweddarach gan ei ddisgyblion, Franz Xaver Süssmayr, Joseph Eybler a Freystadler.