(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Ofydd - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Ofydd

Oddi ar Wicipedia
Ofydd
Ganwyd20 Mawrth 43 CC Edit this on Wikidata
Sulmona Edit this on Wikidata
Bu farwConstanța Edit this on Wikidata
Man preswylConstanța Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, llenor, mythograffydd, marwnadwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMetamorphoses, Heroides, Ibis Edit this on Wikidata
Arddulltragedy Edit this on Wikidata
Publius Ovidius Naso: Llun toriad pren canoloesol lliwiedig, o Gronicl Nüremburg (Liber Chronicarum)

Roedd Publius Ovidius Naso, neu Ofydd (20 Mawrth 43 CC17 OC), yn fardd Lladin ac awdur Rhufeinig. Ysgrifennodd yn bennaf am serch a mytholeg glasurol.

Fe'i ganwyd yn Sulmona, yr Eidal, yn fab i eques. Cafodd ei addysg yn Nhrufain.

Ei gampwaith yw'r Metamorphoses ('Trawsffurfiadau'), sef cerdd 15 llyfr o hyd yn adrodd hanes y byd fel cyfres o gyfnewidiadau. Rhai o'r hanesion enwocaf yw hwnnw am y duw Apollo yn troi ei gariad Daphne yn lawryfen a'r un am Narcissus yn cael ei droi'n flodyn (y cenhinen bedr) ar ôl syllu ar ei adlewyrchiad yn y dŵr am gyfnod hir.

Drwy'r Canol Oesoedd a'r Dadeni Dysg dyma oedd y gwaith llenyddol mwyaf poblogaidd yn yr iaith Ladin ac mae wedi gadael ôl sylweddol ar lenyddiaeth y Gorllewin, o William Shakespeare (roedd hanes trasig y cariadon Pyramus a Thisbe yn ysbrydoliaeth ar gyfer Romeo and Juliet) i Saunders Lewis (a ysgrifennodd gyfieithiad farddonol o'r un stori, Puraf a Thisbe).

Gweithiau gan Ofydd sydd wedi goroesi

[golygu | golygu cod]
  • (10 CC) Amores
  • (5 CC) Heroides neu Epistulae Heroidum
  • (5 CC) Remedium Amoris
  • (5 CC) Medicamina Faciei Femineae
  • (2 CC) Ars Amatoria
  • (8 OC) Metamorphoses
  • (9 OC) Ibis
  • (10 OC) Tristia
  • (10 OC) Epistulae ex Ponto
  • (12 OC) Fasti