(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Panjshir - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Panjshir

Oddi ar Wicipedia
Panjshir
MathTaleithiau Affganistan Edit this on Wikidata
PrifddinasBazarak Edit this on Wikidata
Poblogaeth176,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 Ebrill 2004 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:30 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Dari Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAffganistan Edit this on Wikidata
GwladBaner Affganistan Affganistan
Arwynebedd3,610 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr4,226 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBaghlan, Nuristan, Laghman, Parwan Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.4275°N 69.735°E Edit this on Wikidata
AF-PAN Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
llywodraethwr Edit this on Wikidata
Map

Un o daleithiau Affganistan yw Panjshir (Dari/Pashto: پنجشیر) a leolir yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Crewyd yn 2004 fel talaith ar wahân i Parwan, ac fe'i enwir ar ôl Dyffryn Panshir. Mae'n ffinio â Baghlan a Takhar i'r gogledd, Badakhshan a Nuristan i'r dwyrain, Laghman a Kapisa i'r de, a Parwan i'r gorllewin. Rhennir y dalaith yn saith dosbarth gweinyddol, ac mae'n cynnwys rhyw 500 o bentrefi. Yn 2021 roedd ganddi boblogaeth oddeutu 173,000.[1] Bazarak, enw ar chwe phentref cyfagos, yw prifddinas daleithiol Panjshir.

Panjshir yw'r dalaith olaf i wrthsefyll ymgyrch ymosodol y Taleban yn 2021; ceir gwrthsafiad i'r Taleban hefyd yn rhannau o Baghlan. Arweinir Ffrynt y Gwrthsafiad Cenedlaethol, sydd wedi sefydlu mân-amddiffynfeydd o amgylch Dyffryn Panjshir, gan Ahmed Massoud.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Estimated Population of Afghanistan 2021-22" (PDF). National Statistic and Information Authority (NSIA). Ebrill 2021. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 29 Mehefin 2021. Cyrchwyd 4 Medi 2021.
Taleithiau Affganistan Baner Affganistan
Badakhshan | Badghis | Baghlan | Balkh | Bamiyan | Daykundi | Farah | Faryab | Ghazni | Ghor | Helmand | Herat | Jowzjan vJowzjan | Kabul | Kandahar | Kapisa | Khost | Kunar | Kunduz | Laghman | Lowgar | Nangarhar | Nimruz | Nurestan | Oruzgan | Paktia | Paktika | Panjshir | Parwan | Samangan | Sar-e Pol | Takhar | Wardak | Zabul