Paul Robeson
Paul Robeson | |
---|---|
Ganwyd | 9 Ebrill 1898 Princeton |
Bu farw | 23 Ionawr 1976 o strôc Philadelphia |
Label recordio | Columbia Records, Philips Records, EMI |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, cyfreithiwr, llenor, chwaraewr pêl-fasged, chwaraewr pêl-droed Americanaidd, actor ffilm, actor llwyfan, gwleidydd, actor, cerddolegydd |
Math o lais | bas-bariton |
Taldra | 75 modfedd |
Pwysau | 219 pwys |
Plaid Wleidyddol | Progressive Party |
Mudiad | Dadeni Harlem |
Tad | William Drew Robeson I |
Mam | Maria Louisa Bustill |
Priod | Eslanda Goode Robeson |
Partner | Helen V. Rosen, Peggy Ashcroft |
Plant | Paul Robeson, Jr. |
Gwobr/au | Medal Spingarn, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Neuadd Enwogion New Jersey, Gwobr Ryngwladol Stalin "Ar gyfer Cryfhau Heddwch Ymhlith y Gwledydd", Black Filmmakers Hall of Fame, Gwobr Paul Robeson, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobrau Donaldson |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Akron Pros |
Safle | end |
Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America |
Canwr ac actor ffilm a theatr o'r Unol Daleithiau oedd Paul Leroy Robeson (9 Ebrill 1898 – 23 Ionawr 1976).
Plentyndod
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Princeton, New Jersey, yn fab i weinidog a chyn-gaethwas o'r enw William Robeson a'i wraig Maria.
Prifysgol
[golygu | golygu cod]Mynychodd Brifysgol Rutgers ac yna Ysgol y Gyfraith, Columbia lle derbyniodd radd LL.B.; chwaraeodd bêl-droed Americanaidd ar lefel uchel yn y ddau goleg.
Actio a chanu
[golygu | golygu cod]Dechreuodd ar ei yrfa fel actor llwyfan yn 1921 yn Efrog Newydd lle bu'n byw am saith mlynedd gyda'i wraig Essie. Yn ystod y cyfnod hwn, serenodd yn y ffilm The Proud Valley, a dorrodd dir newydd o ran dangos y dyn croenddu fel ag yr oedd, yn hytrach nag fel caricature. Daeth yn enwog fel canwr caneuon gospel hefyd.
Ei berthynas â Chymru
[golygu | golygu cod]Bu Paul Robeson yn gysylltiedig gyda glöwyr De Cymru am 40 mlynedd bron. Daeth ar eu traws yn gyntaf yn Llundain ym 1929 lle roedd nifer ohonynt yn ddiwaith ac yn canu am eu bara menyn. Fe ddilynodd eu protest a dechreuodd canu emyn-donau ysbrydol iddynt. Cyfranodd at eu hachos drwy Gronfa Gymorth y Glöwyr, ac ymwelodd â sawl tref a chwm yn Ne Cymru gan gynnwys Castell-nedd, Aberdâr, a Phont-y-clun.
Roedd Robeson yn perfformio mewn cyngerdd yng Nghaernarfon ym 1934 pan ddaeth newyddion trychineb Glofa Gresffordd. Rhodd ei dâl o'i berfformiad i'r gronfa ar gyfer teuluoedd y meirw. Ffilmiwyd The Proud Valley ym Mhont-y-pridd a Sanders of the River yn Tiger Bay, Caerdydd. Dywedodd Robeson, "it's from the miners in Wales I first understood the struggle of Negro and white together".
Yn eisteddfod y glöwyr ym Mhorthcawl, 1957, perfformiodd Robeson drwy ganu ar y ffôn o Efrog Newydd, ac ymunodd â Chôr Meibion Treorci i ganu "Hen Wlad fy Nhadau". Yn 1958 canodd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958, gydag Aneurin Bevan yn ei gyflwyno. Gofynnwyd iddo os oedd am gael rodd i gofio'r eisteddfod, a gofynnodd Paul am lyfr emynau Cymraeg.
Hawliau dynol
[golygu | golygu cod]Cefnogodd y gweithiwr a mynegodd ei farn ynglŷn â Rhyfel Cartref Sbaen.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cefnogodd ei wlad, a chanodd a pherfformiodd i'r milwyr ac fel Othello yn Broadway. Er hyn, ar ddiwedd y rhyfel rhoddwyd ef ar restr o bobl pro-Sofiet gan yr FBI. Brwydrai dros hawliau'r duon a chymerwyd ei basbort oddi wrtho gan Lywodraeth UDA oherwydd ei ddaliadau Comiwnyddol ac o'r herwydd lleihaodd ei incwm yn fawr.
Diwedd ei oes
[golygu | golygu cod]Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn Philadelphia.
Gweithiau
[golygu | golygu cod]Ffilmiau
[golygu | golygu cod]- The Emperor Jones (1933)
- Showboat (1936)
- Song of Freedom (1936)
- King Solomon's Mines (1937)
- The Proud Valley (1940)
Llyfrau
[golygu | golygu cod]- Here I Stand (1958). Hunangofiant.
Gwobrau
[golygu | golygu cod]- Gwobr Heddwch Stalin (1952)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Bywgraffiad Archifwyd 2012-04-03 yn y Peiriant Wayback ar wefan 'Maes y Gad i Les y Wlad', Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Paul Robeson ar wefan Internet Movie Database