(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Pedrog - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Pedrog

Oddi ar Wicipedia
Pedrog
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mehefin 564 Edit this on Wikidata
Lannwedhenek Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl4 Mehefin Edit this on Wikidata
TadGlywys Edit this on Wikidata
Am y bardd "Pedrog", gweler John Owen Williams (Pedrog).

Roedd Pedrog (Cernyweg: Petroc[k]; Llydaweg: Pereg; Lladin: Petrocus) yn sant o Frython a oedd yn ei flodau yn y chweched ganrif.

Baner Pedrog a Dyfnaint

Dethlir ei ŵyl ar 4 Mehefin ac ystyrir ef weithiau yn un o nawddseintiau Cernyw (er mai Piran a ystyrir felly gan amlaf).

Pan luniwyd baner newydd ar gyfer Dyfnaint yn 2003, a hynny ar sail casglu barn ar-lein, fe'i cysegrwyd i Pedrog.[1][2] Ond datganodd Cyngor Sir Dyfnaint yn 2019 mai Sant Boniffas a fydd yn cael ei fabwysiadu fel nawddsant swyddogol y sir honno.[3][4][5]

Eglwysi

[golygu | golygu cod]

Mae nifer o eglwysi wedi eu cysegru i Pedrog yng Nghymru, de-orllewin Lloegr a Llydaw. Yn eu plith y mae:

Ei fywyd

[golygu | golygu cod]

Prin iawn yw'r wybodaeth sydd gennym o gyfnod Pedrog ei hun ac mae'n debyg mai yn yr 11eg ganrif y lluniwyd y fuchedd gyntaf iddo, a hynny rywle yng Nghernyw. Mae'r testun wedi ei gadw yng Ngoffâd Sant Meven o Lydaw (Paris, Bibliothèque Nationale, MS Lat. 9889). Mae nifer o destunau sy'n crybwyll Pedrog wedi eu cadw yng nghagliad llawysgrif Gotha o fucheddau seintiau Prydeinig (Gotha, Forschungsbibliothek MS Memb. I 81). Yn eu plith mae buchedd o'r 12ed ganrif sy'n deillio'n rhannol o fuchedd y Coffâd ond sydd hefyd yn cynnwys cryn ddeunydd annibynnol. Cynhwysodd John o Tynemouth (14eg ganrif) dalfyriad o fuchedd y Coffâd yn ei gasgliad o fucheddau'r saint (a aildrefnwyd yn Nova legenda Anglie). Enwir Pedrog mewn sawl llawysgrif o Gymru sy'n cynnwys bucheddau ac achau'r saint.

Dywed buchedd y Coffâd fod Pedrog yn fab i frenin dienw o Gymru. Yn ôl y rhagair i Fuchedd Cadog a'r achau ar ddiwedd buchedd Gotha, mab ydoedd Pedrog i Glywys, sefydlydd teyrnas Glywysing. Ond mae achau 'Bonedd y Saint' yn dweud ei fod yn fab i Clement, tywysog o Gernyw. Dywed Buchedd Cadog i Pedrog ymwrthod â'i etifeddiaeth frenhinol a chilio i Bodmin yng Nghernyw. Ar y llaw arall, dywed buchedd Gotha iddo etifeddu'r frenhiniaeth a gorchyfgu ei gelynion cyn troi'n fynach.

Mae'r bucheddau yn dweud iddo ymweld ag Iwerddon, Cernyw, Rhufain, y Wlad Sanctaidd, ac India cyn dychwelyd i Gernyw lle bu farw yn Treravel, ger Padstow (tref a enwyd ar ei ôl).

Yn ôl yr hynafiaethydd William Worcester (1415 – c. 1482) bu farw Pedrog ar 4 Mehefin 564. Cadwyd ei greiriau yn eglwys Bodmin tan 1177, pan y'u cymerwyd nhw (yn ôl buchedd Gotha) i Abaty St Meven yn Llydaw hyd nes i'r brenin Harri II mynnu eu dychwelyd. Fe'u collwyd yn ystod y Diwygiad Protestannaidd, ond mae'r gist ifori a'u cynhwysai i'w gweld yn eglwys Bodmin.

Eglwysi

[golygu | golygu cod]

Rhestr Wicidata:

# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Wicidata
1 Abaty Santes Fair a Sant Pedrog 50°28′09″N 4°42′56″W / 50.4692°N 4.7155°W / 50.4692; -4.7155 Q4664083
2 Church of Saint John and Saint Petroc
50°12′43″N 5°05′34″W / 50.211826°N 5.092723°W / 50.211826; -5.092723 Q26452926
3 Church of St Keria
50°39′12″N 4°26′41″W / 50.653426°N 4.444828°W / 50.653426; -4.444828 Q26453729
4 Church of St Petrock
50°48′15″N 4°18′14″W / 50.804178°N 4.304001°W / 50.804178; -4.304001 Q26458721
5 Church of St Petrox, Dartmouth
50°20′32″N 3°33′58″W / 50.3422°N 3.56608°W / 50.3422; -3.56608 Q17527165
6 Eglwys Sain Pedrog
51°38′24″N 4°56′03″W / 51.64012694444445°N 4.934133055555556°W / 51.64012694444445; -4.934133055555556 Q20593364
7 Eglwys Sant Pedrog
52°06′53″N 4°39′16″W / 52.114615°N 4.654494°W / 52.114615; -4.654494 Q24296705
8 Eglwys Sant Pedrog Leiaf
50°30′43″N 4°56′15″W / 50.512°N 4.93752°W / 50.512; -4.93752 Q17529422
9 Eglwys Sant Pedrog a Sant Barnabas
50°42′44″N 3°23′33″W / 50.7123°N 3.39263°W / 50.7123; -3.39263 Q17547352
10 Eglwys Sant Pedrog, Clannaborough
50°48′32″N 3°46′47″W / 50.8088°N 3.77962°W / 50.8088; -3.77962 Q17548138
11 Eglwys Sant Pedrog, Exeter
50°43′22″N 3°31′56″W / 50.7227°N 3.53215°W / 50.7227; -3.53215 Q7595386
12 Eglwys Sant Pedrog, Harford
50°25′09″N 3°55′05″W / 50.4193°N 3.9181°W / 50.4193; -3.9181 Q17527002
13 Eglwys Sant Pedrog, Inwardleigh
50°46′36″N 4°02′37″W / 50.7767°N 4.04363°W / 50.7767; -4.04363 Q17536844
14 Eglwys Sant Pedrog, Lydford
50°38′36″N 4°06′36″W / 50.6432°N 4.11°W / 50.6432; -4.11 Q17537648
15 Eglwys Sant Pedrog, Padstow
50°32′28″N 4°56′34″W / 50.5412°N 4.94291°W / 50.5412; -4.94291 Q17529476
16 Eglwys Sant Pedrog, Pwllheli
52°51′20″N 4°28′57″W / 52.8555°N 4.48256°W / 52.8555; -4.48256 Q17744324
17 Eglwys Sant Pedrog, South Brent
50°25′40″N 3°50′13″W / 50.4277°N 3.83696°W / 50.4277; -3.83696 Q17526995
18 Eglwys Sant Pedrog, Torridge
50°53′16″N 4°15′36″W / 50.8877°N 4.26006°W / 50.8877; -4.26006 Q17536472
19 Eglwys Sant Pedrog, Torridge
50°51′46″N 4°06′51″W / 50.8628°N 4.11406°W / 50.8628; -4.11406 Q17536792
20 Eglwys Sant Pedrog, Trevalga
50°40′42″N 4°43′02″W / 50.6782°N 4.71736°W / 50.6782; -4.71736 Q17533478
21 Eglwys Sant Pedrog, West Anstey
51°02′07″N 3°38′18″W / 51.0353°N 3.63845°W / 51.0353; -3.63845 Q17532652
22 Eglwys Sant Petrog, Bodmin
50°28′17″N 4°43′00″W / 50.4714°N 4.7168°W / 50.4714; -4.7168 Q15201909
23 Elwys Sant Pedrog, Timberscombe
51°10′05″N 3°29′41″W / 51.168184°N 3.494716°W / 51.168184; -3.494716 Q5117717
24 Lopereg
48°16′37″N 4°02′53″W / 48.276944°N 4.048056°W / 48.276944; -4.048056 Q475765
25 Mynachdy Dartmouth
50°20′32″N 3°33′58″W / 50.3423°N 3.56609°W / 50.3423; -3.56609 Q5225695
26 Sant-Pereg
47°40′09″N 2°06′29″W / 47.669166666667°N 2.1080555555556°W / 47.669166666667; -2.1080555555556 Q128899
27 St Petroc's Church, Egloshayle
50°30′46″N 4°49′16″W / 50.5128°N 4.82112°W / 50.5128; -4.82112 Q17529267
28 St Petrock's Church
51°00′39″N 3°24′57″W / 51.010828°N 3.415952°W / 51.010828; -3.415952 Q26611180
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Carter, Eileen. (2001). In the Shadow of St Piran
  • Doble, G. H. St Petrock, 3ydd argraffiad, Cornish Saints Series, 11 (1938)
  • Doble, G. H. (1939). ‘The relics of St Petroc’, Antiquity, 13, 403–15
  • Doble, G. H. (1965). The Saints of Cornwall. Dean & Chapter of Truro.
  • Förster, M. (1930). ‘Die Freilassungsurkunden des Bodmin-Evangeliars’, A grammatical miscellany offered to Otto Jespersen on his seventieth birthday, ed. N. Bogholm, A. Brusendorff, a C. A. Bodelsen, 77–99
  • Grosjean, P. gol. (1940). ‘De codice hagiographico Gothano’, Analecta Bollandiana, 58 (1940), 90–103
  • Grosjean, P. gol. (1956). ‘Vies et miracles de S. Petroc’, Analecta Bollandiana, 74, 131–88, 470–96
  • Henken, E. R. (1987). Traditions of the Welsh saints, 199–205
  • Horstman, C. gol. (1910). Nova legenda Anglie, as collected by John of Tynemouth, J. Capgrave, and others, 2, 317–20
  • Lewis, Barry J. gol. (2023) Bonedd y Saint: An Edition and Study of the Genealogies of the Welsh Saints
  • Olson, L. (1989). Early monasteries in Cornwall (1989), 66–78
  • Orme, N. (1991) Unity and Variety: A History of the Church in Devon and Cornwall ISBN 0859893553
  • Orme, N. (1992) Nicholas Roscarrock's Lives of the Saints ISBN 0901853356
  • Orme, N. (1996) English Church Dedications: With a Survey of Cornwall and Devon, Gwasg Prifysgol Exeter ISBN 0859895165
  • Orme, N. (2000) The Saints of Cornwall, Gwasg Prifysgol Rhydychen ISBN 0198207654
  • Pinder-Wilson, R. H. a C. N. L. Brooke (1973) ‘The reliquary of St. Petroc and the ivories of Norman Sicily’, Archaeologia, 104, 261–30

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Devon, England". Flags of the world. 21 Hydref 2011. Cyrchwyd 28 Mai 2016.
  2. "Flag celebrates Devon's heritage". BBC Devon website. Ionawr 2005. Cyrchwyd 25 Ionawr 2014.
  3. "St Boniface set to become Patron Saint of Devon". Diocese of Exeter. 24 Mai 2019. Cyrchwyd 5 Mehefin 2023.
  4. "Devon Day and Patron Saints - Report of the County Solicitor" (PDF). Devon County Council. 17 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 5 Mehefin 2023.
  5. "St Boniface set to become Patron Saint of Devon". Diocese of Plymouth. 28 Mai 2019. Cyrchwyd 5 Mehefin 2023.