Peter Grant
Peter Grant | |
| |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – Mai 2020 | |
Rhagflaenydd | Lindsay Roy Y Blaid Lafur |
---|---|
Geni | 1961 Coatbridge, Gogledd Swydd Lanark, Yr Alban |
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Glenrothes |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Priod | Fiona (meddyg) |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Gwleidydd o'r Alban yw Peter Grant (ganwyd 1961) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Glenrothes; mae'r etholaeth yn Fife, yr Alban. Mae Peter Grant yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Fe'i ganed yn Coatbridge, Gogledd Swydd Lanark, Yr Alban yn 1961 i deulu a oedd yn draddodiadol wedi pleidleisio i'r Blaid Lafur. Symudodd i dref Glenrothes yn 1982, ble etholwyd ef ar ran Plaid Genedlaethol yr Alban yn gynghorydd sir yn yr un flwyddyn. Bu'n arweinydd Cyngor Fife am 5 mlynedd.
Mae'n mwynhau cerddoriaeth ac yn chwarae'r fiolin ers ei blentyndod; diddordeb arall ganddo yw chwarae 'bôls' ac mae'n gadeirydd Clwb Bowlio Leslie.
Etholiad 2015
[golygu | golygu cod]Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Peter Grant 28459 o bleidleisiau, sef 59.8% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 38.1 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 13897 pleidlais.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
- ↑ Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban