Prydydd Breuan
Prydydd Breuan | |
---|---|
Galwedigaeth | bardd |
Bardd Cymraeg a ganai yn ne-orllewin Cymru oedd Prydydd Breuan (fl. tua chanol y 14g). Mae'n debygol ei fod yn frodor o Sir Benfro ond roedd ganddo gysylltiadau cryf â Sir Gaerfyrddin hefyd.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ychydig a wyddys am y bardd ar wahân i'r hyn a awgrymir gan ei enw a thystiolaeth fewnol y pedair cerdd ganddo sydd wedi goroesi. Ymddengys mai at faenor Dyffryn Breuan yng nghwmwd Emlyn Is Cuch, gogledd Sir Benfro, y cyfeirir yr enw lle Breuan yn ei enw. Posiblrwydd arall, llai tebygol, yw lle o'r enw Trefreuan yn Sir Gâr. Ceir sawl cyfeiriad at seintiau a gysylltir â gogledd Penfro a Sir Gaerfyrddin yn ei waith yn ogystal.[1]
Cerddi
[golygu | golygu cod]Cedwir pedair cerdd yn unig o waith y bardd. Mae un ohonynt yn fawl traddodiadol i Faredudd o Ynys Derllys (maenor yng nghwmwd Derllys, Cantref Gwarthaf, Sir Gaerfyrddin, a orweddai fymryn i'r de o dref Caerfyrddin).[1]
Mae'r tri destun arall yn gerddi dychan hynod. Ceir awdl ddychan i un Tarre, englyn proest dychanol i delynor o'r enw Coch y Delyn, a cherdd filain a phersonol iawn ei naws i ferch anhysbys o'r enw Siwan Morgan o Aberteifi. Mae'r gerdd olaf ymhlith y cerddi mwyaf syfrdanol o fras a masweddus o blith holl gerddi dychan Beirdd yr Uchelwyr sy'n darlunio Siwan fel putain flonegog aflan, dwyllodrus, sydd wedi cael "saith cant cnych" neu ragor.[1]
Cedwir y testunau cynharaf i gyd yn adran farddoniaeth Llyfr Coch Hergest (tua 1400).[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Huw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan a cherddi dychan eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2000). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd