Rheilffordd yr Wyddfa
Hanner ffordd i'r copa | |||
Trosolwg | |||
Math | Rac-a-ffiniwn; rheilffordd fynyddig | ||
Lleol | Gwynedd | ||
Termini | Llanberis Yr Wyddfa | ||
O ddydd i ddydd | |||
Agorwyd | 1896 | ||
Perchennog | Heritage Great Britain plc[1] | ||
O ddydd i ddydd | Heritage Great Britain plc | ||
Technegol | |||
Hyd y linell | 4.7 mi (7.6 km) | ||
Sawl trac? | Trac sengl gyda llefydd pasio | ||
Cul neu safonol? | 800 mm (2 ft 7 1⁄2 in) | ||
Radiws y tro (lleiafswm) | (?) | ||
Sustem rac | Rheilffordd Rac[2] | ||
|
Mae Rheilffordd yr Wyddfa (Saesneg: Snowdon Mountain Railway) yn rheilffordd fach sy'n rhedeg ar gledrau cul o bentref Llanberis i ben yr Wyddfa, yn Eryri, Gwynedd, gogledd-orllewin Cymru. Hi yw'r unig reilffordd rhac a phiniwn gyhoeddus yng ngwledydd Prydain. Mae'n un o brif atyniadau twristaidd Gwynedd a Chymru ac yn mesur 4.7 milltir (7.6 km).
Hanes
[golygu | golygu cod]Cwblhawyd rheilffordd led safonol rhwng Bangor a Llanberis ym 1869, a ffurfiwyd Cwmni Cyfyngedig Tramffordd Mynydd yr Wyddfa a Gwestai. Adeiladwyd y rheilffordd gan 150 o dynion, dros gyfnod o 14 mis rhwnf Rhagfyr 1894 a Chwefror 1896.. Mabwysiadwyd rhac a phiniwn Abt, dyfeisiwyd gan Carl Roman Abt, peiriannydd o'r Swistir, a phrynwyd 4 locomotif stêm Winterthur yn y Swistir.[3]
Agorwyd y lein ar 6 Ebrill 1896, ond roedd yn ddamwain ddifrifol a bu farw un person. Ailagorwyd y lein ar 9 Ebrill 1897.
Y copa
[golygu | golygu cod]Wrth ymyl yr orsaf uchaf ger copa'r Wyddfa, roedd adeilad caffi, a ddisgrifiwyd gan y Tywysog Charles fel "slym uchaf Prydain". [1] Codwyd adeilad newydd i gymryd ei le yn ddiweddar. Perchnogion y rheilffordd yw Heritage Great Britain plc,[4] Rhwng Tachwedd a chanol Mawrth, mae'r rheilffordd wedi ei gau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Heritage Great Britain plc
- ↑ "Snowdon Mountain Railway - Snowdonia | History of Britain's only Rack and Pinion Railway". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-13. Cyrchwyd 2012-09-28.
- ↑ "Tudalen hanes ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-06. Cyrchwyd 2016-04-15.
- ↑ Heritage Great Britain plc, http://www.heritagegb.co.uk/
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Rheilffordd yr Wyddfa Archifwyd 2006-04-09 yn y Peiriant Wayback
Rheilffordd yr Wyddfa | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|