(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Sachalin - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Sachalin

Oddi ar Wicipedia
Sachalin
Mathynys, gweithrediaeth Edit this on Wikidata
PrifddinasYuzhno-Sakhalinsk Edit this on Wikidata
Poblogaeth673,100 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+11:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOblast Sakhalin Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd72,492 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,609 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Japan, North Pacific Ocean Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.5°N 143°E Edit this on Wikidata
Hyd950 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Ynys ger arfordir dwyreiniol Rwsia yw Sachalin, hefyd Sakhalin (Rwseg: Сахали́н). Saif rhwng Môr Ochotsk a Môr Japan. Hi yw'r fwyaf o ynysoedd Rwsia. Gydag Ynysoedd Kuril mae'n ffurfio Oblast Sakhalin, un o ranbarthau Rwsia.

Mae arwynebedd yr ynys yn 76,400 km2, a'r boblogaeth tua 673,000. Y ddinas fwyaf, a phrifddinas yr oblast yw Yuzhno-Sakhalinsk, yn ne yr ynys. Gwahenir yr ynys oddi wrth dir mawr Rwsia gan Gulfor Tatar, sy'n 7.3 km yn ei fan gulaf, ac yn rhewi yn y gaeaf, tra mae Culfor La Pérouse yn ei gwahanu oddi wrth Hokkaido, yr agosaf o ynysoedd Japan.

Arferai'r ynys fod yn eiddo Tsieina, er i Japan geisio ei meddiannu hefyd. Meddiannodd Rwsia yr ynys o'r 18g ymlaen, ond parhaodd rhan o dde yr ynys ym meddiant Japan hyd 1875.

Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.