(Translated by https://www.hiragana.jp/)
San Marino - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

San Marino

Oddi ar Wicipedia
San Marino
Serenissima Repubblica di San Marino
ArwyddairLibertas Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMarinus Edit this on Wikidata
PrifddinasDinas San Marino Edit this on Wikidata
Poblogaeth33,607 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 3 Medi 301 Edit this on Wikidata
AnthemInno Nazionale della Repubblica Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethFrancesco Mussoni, Giacomo Simoncini Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET, Time in San Marino Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Eidaleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd61.2 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydayr Eidal, yr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.933°N 12.467°E Edit this on Wikidata
Cod post47890 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCyngres y Wladwriaeth Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCyngor Cyffredinol ac Uwch Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Rhaglyw-gapten Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethAlessandro Rossi, Milena Gasperoni Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Rhaglyw-gapten Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethFrancesco Mussoni, Giacomo Simoncini Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$1,855 million Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.26 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.853 Edit this on Wikidata

Mae San Marino neu San Maroin yn swyddogol Gweriniaeth San Marino[1][2] (Eidaleg: Repubblica di San Marino) ac a elwir hefyd yn Weriniaeth Mwyaf Serene San Marino[3] (Eidaleg: Serenissima Repubblica di San Marino), yn ficro-wladwriaeth ac glofan Ewropeaidd yn yr Eidal.[4] Wedi'i lleoli ar ochr ogledd-ddwyreiniol Mynyddoedd Apenninau, hi yw'r bumed wlad leiaf yn y byd,[5] gydag arwynebedd tir ychydig dros 61 metr sg (24 milltir sg).[6] Mae ganddi boblogaeth o oddeutu 33,607 (Awst 2020) sydd tua deg mil yn llai na dinas Wrecsam.

Mae San Marino yn wlad dirgaeedig; fodd bynnag, mae gogledd-ddwyrain y wlad o fewn 10 cilometr (6 mi) i ddinas Eidalaidd Rimini ar arfordir y Môr Adria. Mae prifddinas y wlad, Dinas San Marino, wedi'i lleoli ar ben Monte Titano, a'i anheddiad mwyaf yw Dogana, o fewn bwrdeistref Serravalle. Eidaleg yw iaith swyddogol San Marino.

Daw enw'r wlad o'r Santes Marinus, saer maen o'r ynys Rufeinig Rab yn Croatia heddiw. Yn ôl adroddiadau chwedlonol, cafodd ei eni yn 275 OC, cymerodd ran yn y gwaith o ailadeiladu muriau dinas Rimini ar ôl eu dinistrio gan fôr-ladron Libwraidd, ac yn ddiweddarach sefydlodd gymuned fynachaidd annibynnol ar Monte Titano yn 301 OC. Mae San Marino, felly, yn honni mai hi yw'r wladwriaeth sofran hynaf drwy'r byd, yn ogystal â'r weriniaeth gyfansoddiadol hynaf.[7]

Mae cyfansoddiad San Marino yn mynnu bod yn rhaid i’w deddfwrfa (y Prif Gyngor a’r Cyngor Cyffredinol) a etholir yn ddemocrataidd, ethol dau bennaeth gwladwriaeth bob chwe mis. Cant eu hadnabod fel y ddau Gapten Rhaglaw, maent yn cyd-wasanaethu a chyda phwerau cyfartal.

Mae economi'r wlad yn seiliedig yn bennaf ar gyllid, diwydiant, gwasanaethau, manwerthu a thwristiaeth, fel pob gwlad arall. Mae'n un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd o ran CMC y pen, yn debyg i'r rhanbarthau Ewropeaidd mwyaf datblygedig.[1] Mae'r wlad yn safle 44 yn y Mynegai Datblygiad Dynol.[8]

Darlun o Sant Marinus, sylfaenydd Gweriniaeth San Marino a ffigwr diwylliannol amlwg

Yn 1320, dewisodd cymuned Chiesanuofa ymuno â'r wlad[9] ac yn 1463, ehangwyd San Marino trwy gynnwys cymunedau Faetano, Fiorentino, Montegiardino, a Serravalle; ers hynny, ni chafwyd newid yn y ffiniau.[10]

Yn 1503, meddiannodd Cesare Borgia, mab y Pab Alecsander VI, y Weriniaeth am chwe mis nes i olynydd ei dad, y Pab Iŵl II, ymyrryd ac adfer annibyniaeth y wlad.[11]

Ar 4 Mehefin 1543, ceisiodd Fabiano di Monte San Savino, nai y Pab Iŵl III orchfygu'r weriniaeth, ond methodd ei filwyr a'i farchogion wedi iddynt fynd ar goll mewn niwl trwchus, a briodolodd y Sammarinesi i Sant Quirinus.[12]

Wedi i Ddugiaeth Wrbino gael ei hatodi gan y Gwladwriaethau Pabaidd yn 1625, daeth San Marino yn gilfach o fewn taleithiau'r Pab. Arweiniodd hyn at gais sywyddogol i Daleithiau'r Pab eu hamddiffyn, a hynny yn 1631. Nid yw hyn yn cael ei ystyried yn gyfystyr â rheolaeth Pabaidd de facto ar y weriniaeth.[13]

Meddianwyd y wlad ar 17 Hydref 1739 gan gymynrodd (llywodraethwr y Pab) Ravenna, Cardinal Giulio Alberoni, ond adferwyd annibyniaeth gan y Pab Clement XII ar 5 Chwefror 1740, dydd gŵyl Sant Agatha, ac wedi hynny daeth yn nawddsant y weriniaeth.[14]

Cyfansoddiad San Marino, neu statudau mwy manwl gywir, o 1600

Yn ystod y cyfnod o uno'r Eidal yn y 19g, gwasanaethodd San Marino fel lloches i lawer o bobl a erlidiwyd oherwydd eu cefnogaeth i'r uno, gan gynnwys Giuseppe Garibaldi a'i wraig Anita. Caniataodd Garibaldi i San Marino aros yn annibynnol a llofnododd San Marino a Theyrnas yr Eidal Gonfensiwn Cyfeillgarwch yn 1862.[15]

Milwrol

[golygu | golygu cod]

Mae lluoedd milwrol San Marino ymhlith y lleiaf yn y byd ac yn gyfrifoldeb i luoedd arfog yr Eidal. Mae gan y gwahanol ganghennau swyddogaethau amrywiol, gan gynnwys cyflawni dyletswyddau seremonïol, patrolio ffiniau, gosod gwarchodwyr yn adeiladau'r llywodraeth, a chynorthwyo'r heddlu mewn achosion troseddol mawr. Nid yw'r heddlu wedi'u cynnwys yn y fyddin yn San Marino.

Gwarchodwr y Graig

[golygu | golygu cod]
Gwarchodwyr y Graig

Mae Lluoedd y Graig yn uned filwrol rheng flaen lluoedd arfog San Marino, yn batrôl y ffiniau gyda chyfrifoldeb am batrolio ffiniau a'u hamddiffyn.[16] Yn eu rôl fel Gwarchodlu'r Gaer maent yn gyfrifol am warchod y Palazzo Pubblico yn Ninas San Marino, sedd y llywodraeth genedlaethol.

Economi

[golygu | golygu cod]

Gwlad ddatblygedig yw San Marino,[17] ac er nad yw'n aelod o'r Undeb Ewropeaidd caniateir iddi ddefnyddio'r Ewro fel ei harian drwy drefniant gyda Chyngor yr Undeb Ewropeaidd; mae hefyd yn cael yr hawl i ddefnyddio ei ddyluniadau ei hun ar ochr genedlaethol y darnau arian Ewro. Cyn yr Ewro, roedd y lira Sammarinese wedi'i begio i'r lira Eidalaidd.

Mae CMC y pen San Marino a safon byw yn debyg i rai'r Eidal. Mae diwydiannau allweddol yn cynnwys bancio, electroneg, a serameg. Y prif gynnyrch amaethyddol yw gwin a chaws. Mae San Marino yn mewnforio nwyddau o'r Eidal yn bennaf.

Poblogaeth

[golygu | golygu cod]

Demograffeg

[golygu | golygu cod]

Ym Medi 2023, amcangyfrifir bod 33,896 o drigolion yn San Marino. O'r rhain, mae gan 28,226 ddinasyddiaeth Sammarineaidd, tra bod gan 4,881 ddinasyddiaeth Eidalaidd, a 789 yn ddinasyddion gwledydd eraill.[18] Mae 13,000 arall o ddinasyddion y wlad yn byw dramor (6,600 yn yr Eidal, 3,000 yn yr Unol Daleithiau, a 2,000 yn Ffrainc a'r Ariannin).[19]

Pobl nodedig

[golygu | golygu cod]
  • Giovanni Battista Belluzzi (1506 yn San Marino - 1554), pensaer
  • Francesco Maria Marini ( fl. 1637 ), cyfansoddwr cerddoriaeth Baróc gynnar
  • Francesco de' Marini (1630 yn Genova - 1700), archesgob Catholig
  • Antonio Onofri (1759–1825), gwladweinydd, "Tad ei Wlad".
  • Little Tony (1941 yn Tivoli - 2013), cerddor pop a roc
  • Pasquale Valentini (ganwyd 1953 yn San Marino), gwleidydd sydd wedi dal nifer o swyddi gweinidogol
  • Massimo Bonini (ganwyd 1959 yn San Marino), chwaraewr pêl-droed a chwaraeodd i Juventus
  • Marco Macina (ganwyd 1964 yn San Marino), pêl-droediwr a chwaraeodd i Bologna FC, Parma, Reggiana, ac AC Milan .
  • Valentina Monetta (ganwyd 1975 yn San Marino), cantores a gynrychiolodd San Marino bedair gwaith yn yr Eurovision Song Contest
  • Manuel Poggiali (ganwyd 1983 yn San Marino), Pencampwr Byd rasio ffordd beiciau modur Grand Prix
  • Alex de Angelis (ganwyd 1984 yn Rimini ), rasiwr ffordd beic modur Grand Prix
  • Alessandra Perilli (ganwyd 1988 yn Rimini), yn saethu enillydd medal arian ac efydd Olympaidd a dinesydd San Marino cyntaf i ennill medal ( Tokyo 2020 )
  • Gian Marco Berti (ganwyd 1982 yn San Marino), yn saethu enillydd medal arian Olympaidd ac ail ddinesydd San Marino i ennill medal (Tokyo 2020)
  • Myles Nazem Amine (ganwyd 1996 yn Dearborn, Michigan ), 2020 86 kg reslo enillydd medal efydd Olympaidd a thrydydd dinesydd San Marino i ennill medal (Tokyo 2020)
Crefyddau yn San Marino (2011) [1]
Crefydd %
Pabyddol 97.2%
Protestanaidd 1.1%
Cristionogion Arall 0.7%
Iddewig 0.1%
Arall 0.1%
Ddim yn grefyddol 0.7%
Dim ateb 0.1%

Rhanbarthau

[golygu | golygu cod]

Mae San Marino yn isrannu i mewn 9 Bwrdeistrefi (castelli, unigol castello)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 San Marino. The World Factbook. Central Intelligence Agency.
  2. "Official Names of the United Nations Membership" (PDF). United Nations.
  3. "FACTBOX: Five facts: Most Serene Republic of San Marino". Reuters. 17 Awst 2009. Cyrchwyd 12 May 2021.
  4. "The Republic of San Marino: Italy's Mountaintop Microstate". Round the World in 30 Days. 14 August 2017. Cyrchwyd 10 August 2020.
  5. "San Marino". Lonely Planet. Cyrchwyd 18 November 2016.
  6. "World Bank Open Data". World Bank Open Data. Cyrchwyd 2024-08-24.
  7. "Europe's Micro-States: (04) San Marino". Deutsche Welle. 24 July 2014. Cyrchwyd 28 July 2014.
  8. "Human Development Report 2021/2022" (PDF). United Nations Development Programme. 8 September 2022. Cyrchwyd 8 September 2022.
  9. "SanMarinoSite. Chiesanuova". 10 October 2014.
  10. San Marino. Countries and their Cultures.
  11. Paul Joseph The Sage Encyclopedia of War: Social Science Perspectives: Volume IV, 2017, p. 1511.
  12. Nevio and Annio Maria Matteimi The Republic of San Marino: Historical and Artistic Guide to the City and the Castles, 2011, p. 20.
  13. Nevio and Annio Maria Matteimi The Republic of San Marino: Historical and Artistic Guide to the City and the Castles, 2011, p. 21.
  14. Nevio and Annio Maria Matteimi The Republic of San Marino: Historical and Artistic Guide to the City and the Castles, 2011, p. 23.
  15. "Convention of Good Neighbourship between Italy and San Marino, signed at Turin, 22 March 1862". Oxford Public International Law. Cyrchwyd 12 September 2022.
  16. San Marino Department of Tourism (2011). "San Marino Military Organizations" (yn Saesneg a Eidaleg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 September 2008. Cyrchwyd 3 September 2011.
  17. "World Economic Outlook Database, April 2019". IMF.org. International Monetary Fund. Cyrchwyd 29 September 2019.
  18. "Bollettino di Statistica III Trimestre 2023" [Statistics Bulletin Third Trimester 2023] (PDF). Ufficio Informatica, Tecnologia, Dati e Statistica (yn Eidaleg). 2023. t. 9. Cyrchwyd 9 February 2023.
  19. "Statistica San Marino" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 14 February 2022. Cyrchwyd 8 June 2024.