(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Santes Tudful - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Santes Tudful

Oddi ar Wicipedia
Santes Tudful
Santes Tudful, Eglwys Gadeiriol Llandaf
GanwydUnknown Edit this on Wikidata
Aberhonddu Edit this on Wikidata
Bu farw480 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Man preswylGwent Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl23 Awst Edit this on Wikidata
TadBrychan Edit this on Wikidata
Afbais Cyngor Merthyr Tudful, gyda'r Santes Tudful

Santes a roes ei henw i dref Merthyr Tudful oedd Tudful (bu farw c. 480).[1]

Hanes a thraddodiad

[golygu | golygu cod]
Eicon o Santes Tudful, yn Eglwys Santes Tudful, yng nghanol tref Merthyr.

Roedd Tudful yn un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.[2] Priododd Cynged ap Cadell Deyrnllwg ac roedd hi yn fam i Brochwel Ysgithrog ac yn famgu i Tysilio. Yn 480 roedd ar ei ffordd i ymweld â thad pan cafodd ei lladd "gan baganiaid" ger Merthyr Tudful.[1].

Fodd bynnag, gall 'merthyr' yn y Gymraeg olygu "eglwys (er cof am sant neu ar ei fedd)"; ceir enwau lleol tebyg eraill yn ne Cymru, e.e. Merthyr Cynog, Merthyr Dyfan a Merthyr Mawr, a cheir merther yn y Gernyweg a merzher yn Llydaweg hefyd, i gyd mewn enwau lleoedd.[3] Gall fod y hanes am ei lladd wedi datblygu fel ymgais i esbonio'r enw "Merthyr Tudful".

Bu yn santes poblogaidd gyda'r werin yn yr Oesoedd Canol ond ceisiodd yr Eglwys Catholig gwanychu cred y werin ynddi.

Ei dydd gŵyl yw 23 Awst.

Gweler Hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2001).
  2. Jones, T.T. 1977, The daughters of Brychan, Brycheiniog Cyf.XVII
  3. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol III, tud. 2436.