Sgwrs:Gefell
Gwedd
Isn't this a mutated form? I thought the base word was "gefeilliaid" with a "g". Luke 13:33, 2 Ionawr 2010 (UTC)
Iep. Dylai fod: Gefell, (lluosog: gefeilliaid ond hefyd yr efeilliaid). Sanddef 15:02, 27 Chwefror 2010 (UTC)
- Rydych yn iawn, efallai fod y dryswch wedi codi o'r ffurf "yr efeilliaid". Hefyd dwi'n meddwl y dylem ni newid hyn i'r enw unigol 'gefell' er mwyn cysondeb, fel sy'n arfer gennym ni yn gyffredinol oni bai ein bod yn cyfeirio at grŵp o bobl, e.e. Almaenwyr. Ffurfiau unigol sydd gan y wicis eraill dwi'n meddwl, yn ôl y dolenni rhyngwici. Anatiomaros 15:18, 27 Chwefror 2010 (UTC)
Hefyd: 1. Dim yn siwr pam fod angen cynnwys "monozygotic/MZ" a'r llall. 2. yn ôl GyA "gefell unwy" a "gefell deuwy" yw "monozygotic twin" a "dizygotic twin", ond ceir y geiriau "monosygotig" a "deusygotig" yn y GyA hefyd. Hefyd: fraternal twins = gefeilliad brawdol, identical twins = gefeilliaid unffurf, gefeilliad, un ffunud, non-identical twins = gefeilliaid annhebyg/gwahanol [i'w gilydd], Siamese twins = gefeilliad Siamaidd, a The Twins (Gemini) = Y Gefeilliaid Sanddef 17:56, 27 Chwefror 2010 (UTC)
- Ia, wnes i feddwl am 'Y Gefeilliaid' hefyd. Angen tudalen gwahaniaethu Gefeilliaid (gwahaniaethu) efallai? Dwi'n fawr o fiolegydd chwaith! Anatiomaros 17:59, 27 Chwefror 2010 (UTC)
- Mae'n rhydd i chi gywiro'r termau Cymraeg am monozygotic a dizygotic os ydy nhw yn eich geiriadur chi, Doeddwn i methu eu canfod unrhywle felly dyfalu wnes i ar sail geiriau eraill tebyg! Thaf 09:22, 28 Chwefror 2010 (UTC)