Siarl Foel
Siarl Foel | |
---|---|
Ganwyd | 13 Mehefin 823 Frankfurt am Main |
Bu farw | 6 Hydref 877 Avrieux |
Dinasyddiaeth | West Francia |
Galwedigaeth | teyrn, llenor |
Swydd | brenin Gorllewin Francia, Ymerawdwr Glân Rhufeinig |
Tad | Louis Dduwiol |
Mam | Judith of Bavaria |
Priod | Ermentrude of Orléans, Richilde of Provence |
Plant | Judith of Flanders, Louis the Stammerer, Charles the Child, Carloman, Lothar the Lame, Rothilde, Ermentrude, Hildegard, Gisela, Rotrude, Drogo, Pippin, Charles |
Llinach | Y Carolingiaid |
Roedd Siarl Foel neu Siarl II (Ffrangeg: Charles le Chauve, Almaeneg: Karl der Kahle; 13 Mehefin 823 - 5 neu 6 Hydref, 877), yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 875 hyd 877 ac yn frenin Ffrancia Orllewinol rhwng 840 a 877).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Siarl oedd mab ieuengaf yr Ymerawdwr Louis Dduwiol a'i ail wraig, Judith. Ganed ef Frankfurt, pan oedd ei frodyr eisoes yn oedolion ac wedi cael teyrnasoedd i'w rheoli gan eu tad. Ceisiodd ei dad gael teyrnas i Siarl hefyd, ond methiant fu ei ymdrechion. Cred rhai mai dyma sut y cafodd Siarl yr enw "Siarl Foel", am nad oedd ganddo deyrnas yn hytrach nag am nad oedd ganddo wallt. Ymhen amser cafodd deyrnas yn Aquitaine a'r Eidal.
Pan fu farw Louis yn 840 bu rhyfel rhwng ei feibion. Gwnaeth Siarl gynghrair gyda'i frawd Louis yr Almaenwr yn erbyn Lothair I. Gorchfygasant Lothair yn 841, ac yn Awst 843 gwnaed Cytundeb Verdun i ddiweddu'r ymryson. Cafodd Siarl deyrnas Ffrancia Orllewinol, yn cyfateb yn fras i Ffrainc fodern. Yn 858, ymosododd Louis yr Almaenwr arno, a bu raid iddo ffoi i Fwrgwyn am gyfnod. Cafodd ei orchfygu gan Nevenoe, a gyhoeddodd ei hun yn frenin Llydaw, yn 845 a chan Erispoe, mab Nevenoe, yn 851. Bu hefyd yn ymladd yn fynych yn erbyn y Llychlynwyr.
Yn 875, wedi marwolaeth Louis II (mab ei frawd Lothair), daeth Siarl yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Bu farw wrth ddychwelyd i Ffrainc o'r Eidal dros fwlch Mont Cenis ger Brides-les-Bain, ar y 5ed neu'r 6ed o Hydref 877. Dilynwyd ef gan ei fab Louis.
Rhagflaenydd: Louis II |
Ymerawdwr Glân Rhufeinig 875 – 877 |
Olynydd: Siarl III (Siarl Dew) |