Sych-lanhau
Proses o lanhau dillad a thecstiliau gyda thoddyddion cemegol yn lle dŵr yw sych-lanhau. Mae'r cemegion, yn aml halidau neu organohalogenau, yn toddi bryntni a saim oddi ar ddefnyddiau.[1]
Perchennog lliwdy Ffrengig o'r enw Jean Baptiste Jolly oedd y cyntaf i sych-lanhau ym 1855; petrol a pharaffin oedd y toddyddion hanesyddol. Yn hanner cyntaf yr 20g defnyddid dau doddydd synthetig yn bennaf, oedd yn hynod o wenwynig: carbon tetraclorid a tricloro-ethylen. Daeth tetracloro-ethylen/percloro-ethylen (perc) yn brif hylif glanhau'r diwydiant gan yr oedd yn saffach, yn gyflymach, ac yn glanhau'n well o lawer.[2] Ymhlith y cemegion eraill a ddefnyddir mae naptha neu ether petroliwm a bensen. Pwrpas y toddyddion yw i doddi'r sylwedd gludiog sy'n achosi gronynnau budr i lynu at y dillad. Mewn dŵr, gall sylweddau megis startsh neu brotein chwyddo yn lle diflannu.[3]
Câi staeniau eu rhag-drin i hwyluso'r broses lanhau: dŵr am hylifau sy'n cynnwys dŵr, neu doddydd am saim ac olew, a cheisio blotio'r staen gan ddefnyddio lliain.[2] Rhoddir y dillad a'r toddyddion mewn drymiau sy'n cylchdroi, yn debyg i beiriant golchi arferol. Tro'r drwm yn allgyrchol, yn gyflym iawn er mwyn trwytho ac yna sychu'r dillad. Toddir sylweddau gludiog megis saim, olew a chwys gan y toddydd, gan gael gwared â llwch, baw ac ati. Wedi'r broses hon, câi'r toddyddion llygredig eu draenio a'u distyllu mewn proses ailgylchu. Tynnir unrhyw ronynnau soled sydd ar ôl ar y dillad gan ddefnyddio brws.[3]
Weithiau bydd angen defnyddio dŵr yn yr ôl-driniaeth os oes bryntni sy'n glynu at ffibrau oherwydd eu priodweddau ffisigocemegol. Rhoddir y dillad mewn dŵr a ddefnyddir sebon a glanhawyr eraill i dynnu'r budreddi o'r deunydd. Câi'r dillad ei drin mewn toddiadau asidig gwan iawn i adfer lliw'r deunydd, ac yna'i ystreulio, ei allgyrchu a'i sychu gan wres. O bosib rhoddir triniaeth trwytho ar ryw adeg o'r broses i wneud y dillad yn wrth-ddŵr a'i ddiogelu rhag bryntni.[3] Ymdrechir i godi unrhyw staeniau sy'n aros yn yr ôl-driniaeth, ac i drwsio unrhyw fotymau neu addurniadau eraill a gafodd eu torri neu ymddatod wrth gylchdroi. Yn olaf câi'r dillad ei smwddio gan wasg beiriannol sy'n defnyddio stêm ac aer, neu haearn smwddio os yw'n ddilledyn main.
Gan fod sych-lanhau yn gofyn am beiriannau ac offer arbenigol, ni ellir ei wneud yn y cartref. Bydd aelod o'r cyhoedd yn mynd â'i ddillad i'r golchdy neu'r siop sych-lanhau ac yn cael derbynneb. Dodir label ar y dillad, a'i drefnu gyda dillad cwsmeriaid eraill yn ôl y math o staen neu ddefnydd neu liw'r dilledyn. Yn aml rhoddir y dilledyn mewn bag plastig clir cyn ei ddychwelyd i'r cwsmer.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) dry cleaning. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Gorffennaf 2016.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Nate Marks. How Dry Cleaning Works. HowStuffWorks. Adalwyd ar 5 Gorffennaf 2016.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 How Things Work: The Universal Encyclopedia of Machines,Volume I (St Albans, Paladin, 1974), t. 406–7.