Tatra Uchel
Math | cadwyn o fynyddoedd, cyrchfan i dwristiaid, atyniad twristaidd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Tatra National Park |
Sir | Poprad District, Liptovský Mikuláš District, Kežmarok District, Lesser Poland Voivodeship |
Gwlad | Slofacia, Gwlad Pwyl |
Arwynebedd | 341 km² |
Uwch y môr | 2,655 metr |
Cyfesurynnau | 49.1667°N 20.1333°E |
Hyd | 26 cilometr |
Cyfnod daearegol | Mïosen |
Cadwyn fynydd | Eastern Tatras |
Cadwyn o fynyddoedd yw'r Tatra Uchel neu'r Tatrau Uchel (Slofaceg a Tsieceg: Vysoké Tatry, Pwyleg: Tatry Wysokie) ar y ffin rhwng Slofacia a Gwlad Pwyl yng Nghanolbarth Ewrop. Maent yn rhan o'r Tatra Dwyreiniol yng nghadwyn y Carpatiau.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Gyda 11 copa dros 2500 m, y Tatra Uchel, ynghyd â'r Carpatiau Deheuol, yw'r unig gadwyn o gymeriad alpaidd yng nghadwyn 1200 km y Carpatiau. Gorwedd y rhan fwyaf o'r copaon uchaf yn Slofacia: yr uchaf o'r rhain yw Gerlachovský štít (2,655 m).
Mae sawl rhywogaeth brin o anifeiliaid a phlanhigion i'w cael yn y Tatra Uchel. Mae'n gynefin i famaliaid ysglyfaethus mawr fel eirth, lynx Ewrasiaidd, bleiddiaid a llwynogod, ynghyd â sawl rhywogaeth o adar prin.
Mae'n ardal yn ganolfan chwaraeon gaeaf. Mae canolfannau gwyliau sgïo adnabyddus yn cynnwys Štrbské pleso, Starý Smokovec a Tatranská Lomnica yn Slofacia a Zakopane, yr enwocaf efallai, yng Ngwlad Pwyl. Tref Poprad yw'r porth i gyrraedd canolfannau chwaraeon gaeaf y Tatra Slofaciaidd.
Sefydlwyd y parc cenedlaethol traws-ffin cyntaf yn Ewrop yma, sef Parc Cenedlaethol Tatra - parc Tatranský národný yn Slofacia yn 1948 a Tatrzański Park Narodowy yng Ngwlad Pwyl, yn 1954.
Copaon
[golygu | golygu cod]Y 15 copa uchaf, i gyd yn Slofacia, yw:
Peak | Elevation (m|ft) | |
---|---|---|
Gerlachovský štít | 2,655 | 8,711 |
Gerlachovská veža | 2,642 | 8,668 |
Lomnický štít | 2,633 | 8,638 |
Ľadový štít | 2,627 | 8,619 |
Pyšný štít | 2,623 | 8,605 |
Zadný Gerlach | 2,616 | 8,583 |
Lavínový štít | 2,606 | 8,550 |
Malý Ľadový štít | 2,602 | 8,537 |
Kotlový štít | 2,601 | 8,533 |
Lavínová veža | 2,600 | 8,530 |
Malý pyšný štít | 2,591 | 8,501 |
Veľká Litvorová veža | 2,581 | 8 468 |
Strapatá veža | 2,565 | 8,415 |
Kežmarský štít | 2,556 | 8,386 |
Vysoká | 2,547 | 8,356 |
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Tatry Open Directory Archifwyd 2011-06-25 yn y Peiriant Wayback