(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Telscombe - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Telscombe

Oddi ar Wicipedia
Telscombe
Mathtref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Lewes
Poblogaeth7,393 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDwyrain Sussex
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd4.7 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.803°N 0.01°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04003791 Edit this on Wikidata
Cod OSTQ403022 Edit this on Wikidata
Cod postBN10 Edit this on Wikidata
Map

Plwyf sifil â statws tref yn Nwyrain Sussex, De-ddwyrain Lloegr, ydy Telscombe. Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Lewes. Mae'n cynnwys tri anheddiad, wedi'u gwahanu oddi wrth ei gilydd gan ardal agored o dwyndir o'r enw Telscombe Tye:

  • Telscombe Village,[1] pentrefan sydd wedi'i leoli tua 10 km (6 mi) i'r de o Lewes. Mae'n cynnwys eglwys y plwyf. Mae ganddi boblogaeth o lai na 50 o bobl.
  • Telscombe Cliffs,[2] anheddiad arfordirol ym mhen dwyreiniol y plwyf, sy'n estyniad o dref Peacehaven. Mae ganddi boblogaeth o tua 4,500.
  • East Saltdean, anheddiad arfordirol ym mhen gorllewinol y plwyf sy'n estyniad o bentref Saltdean. Mae ganddi boblogaeth o tua 2,500.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil cyfan boblogaeth o 7,477.[3]

Daeth Telscombe yn dref ym 1974.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. British Place Names; adalwyd 11 Mehefin 2020
  2. British Place Names; adalwyd 11 Mehefin 2020
  3. City Population; adalwyd 11 Mehefin 2020


Eginyn erthygl sydd uchod am Ddwyrain Sussex. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato