Theodoros Gazis
Theodoros Gazis | |
---|---|
Ganwyd | 1398 Thessaloníci |
Bu farw | 1475 San Giovanni a Piro |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | cyfieithydd, athro cadeiriol, athronydd |
Cyflogwr | |
Mudiad | Dyneiddiaeth |
Ysgolhaig Groegaidd a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Theodoros Gazis (tua 1415 – 1476) sydd yn nodedig am gyfieithu sawl gwaith o'r iaith Roeg i'r Lladin.
Ganed yn Thessaloníci yn ystod y cyfnod pan oedd yr Ymerodraeth Otomanaidd yn ehangu ei thiriogaeth yn y Balcanau. Mae union fanylion ei fywyd cynnar yn ansicr, ond mae'n debyg yr oedd yn aelod o deulu pwysig yn y gymuned leol. Yn ôl ambell ffynhonnell, treuliodd Theodoros rhywfaint o'i ieuenctid yn fynach yng Nghaergystennin ac yn gyfaill i'r Eidalwr Francesco Filelfo a fu'n astudio'r iaith Roeg yno o 1420 i 1427. Mae sawl ffynhonnell yn awgrymu i Theodoros deithio gyda'r cenadaethau Bysantaidd i Gyngor Eglwysig Ferrara ym 1438–9, ond annhebygol ydy hynny.[1]
Ffoes Theodoros i'r Eidal wrth i'r Otomaniaid goncro mwy o diriogaeth yr Ymerodraeth Fysantaidd a nesu at Gaergystennin. Treuliodd y cyfnod 1440–3 yn Pavia, ger Milan, yn copïo llawysgrifau Groeg. Symudodd i Mantua i weithio yn athro cynorthwyol yn ysgol ddyneiddiol Vittorino da Feltre, a dysgodd yr iaith Ladin wrth ei waith. Bu'n astudio meddygaeth, yn cyfieithu llawysgrifau, ac yn addysgu'r iaith Roeg i Vittorino a'u disgyblion. Penodwyd Theodoros yn athro Groeg ym Mhrifysgol Ferrara ym 1446 a llwyddodd i ddenu niferoedd mawr o fyfyrwyr gyda'i ddarlithoedd. Cynigwyd iddo hen gadair academaidd Manuel Chrysoloras ym Mhrifysgol Fflorens gan Cosimo de' Medici, ond penderfynodd Theodoros wrthod y swydd honno. Gyda chymorth y Cardinal Johannes Bessarion, a oedd hefyd yn ysgolhaig Groeg alltud, enillodd Theodoros nawdd y Pab Niclas V i gyfieithu llenyddiaeth Hen Roeg i'r Lladin a chafodd ei groesawu i Rufain ym 1449. Wedi marwolaeth y Pab Niclas ym 1455, parhaodd Theodoros i gyfieithu llawysgrifau, yn Rhufain dan nawdd y Cardinal Bessarion ac yna yn llys Alfonso I, brenin Napoli.
Gwerthfawrogwyd cyfieithiadau Theodoros gan ddyneiddwyr Eidalaidd am iddynt wella ar drosiadau digabol a chamgyfieithiadau gan ysgolheigion yr Oesoedd Canol. Prif gyfraniad Theodoros at glasuriaeth y Dadeni oedd ei argraffiadau o weithiau Aristoteles a Theophrastus. Yn y ddadl athronyddol rhwng ysgolheigion Groeg yn ail hanner y 15g, cytunai Theodoros ag ymdrechion Bessarion i Blatoneiddio gwaith Aristoteles, yn groes i Georgius Trapezuntius, amddiffynnydd y traddodiad Artistotelaidd ysgolaidd.[2] Gofynnodd y Pab Niclas i Theodoros gywiro camdrosiadau Georgius o athronwyr naturiol yr Henfyd, ac o'r herwydd bu cystadleuaeth ysgolheigaidd rhyngddynt.[1] Cyfieithodd Theodoros hefyd sawl awdur Rhufeinig, yn eu plith Iŵl Cesar a Cicero, o Ladin i Roeg. Ysgrifennodd ramadeg Roeg, a gyhoeddwyd yn gyntaf yn Fenis gan Aldus Manutius ym 1495, a ystyriwyd yn yr arweiniad gorau i'r iaith honno gan Desiderius Erasmus, a gyfieithodd rhan ohono i Ladin ym 1516. Yn ogystal, ysgrifennodd Theodoros nifer o draethodau, llythyrau, ac areithiau yn yr ieithoedd Groeg a Lladin.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Georgios Steiris, "Gaza, Theodore" yn Encyclopedia of Renaissance Philosophy, golygwyd gan M. Sgarbi (Springer, 2015). Adalwyd ar 20 Awst 2020.
- ↑ 2.0 2.1 Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 160–1.