Tonga
Brenhiniaeth Tonga Puleʻanga Fakatuʻi ʻo Tonga | |
Arwyddair | Duw a Tonga yw fy etifeddiaeth |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, ynys-genedl |
Prifddinas | Nuku'alofa |
Poblogaeth | 108,020 |
Sefydlwyd | 4 Mehefin 1970 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr) |
Anthem | Anthem Brenin Ynysoedd Tonga |
Pennaeth llywodraeth | Pohiva Tuʻiʻonetoa |
Cylchfa amser | UTC+13:00, Tongatapu'r Môr Tawel |
Gefeilldref/i | Auckland, Owariasahi |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Tongan, Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Polynesia |
Gwlad | Tonga |
Arwynebedd | 748.506563 km² |
Yn ffinio gyda | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 20.58778°S 174.81028°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Deddfwriaethol Tonga |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Brenin Tonga |
Pennaeth y wladwriaeth | Tupou VI |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Tonga |
Pennaeth y Llywodraeth | Pohiva Tuʻiʻonetoa |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $469.2 million |
Arian | Tongan paʻanga |
Cyfartaledd plant | 3.722 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.745 |
Mae Tonga (yn swyddogol Teyrnas Tonga; yn y Tongaeg: Puleʻanga Fakatuʻi ʻo Tonga) yn wlad sofran, ac yn wlad ynys ym Mholynesia, sy'n rhan o Oceania. Mae ganddi 171 o ynysoedd - gyda phobl yn byw ar 45 ohonynt nhw. Cyfanswm arwynebedd y wlad yw tua 750 cilometr sgwar (290 milltir sgwar) a hynny wedi ei wasgaru dros arwynebedd o tua 700,000 o gilometrau sgwar (270,000 milltir sgwar)yn Ne'r Cefnfor Tawel. O 2021 ymlaen, yn ôl Johnson's Tribune, mae gan Tonga boblogaeth o 104,494,[1] gyda 70% ohonynt yn byw ar y brif ynys, sef Tongatapu. O'i hamgylch mae Fiji a Wallis a Futuna (Ffrainc) i'r gogledd-orllewin, Samoa i'r gogledd-ddwyrain, Caledonia Newydd (Ffrainc) a Fanwatu i'r gorllewin, Niue (y diriogaeth dramor agosaf) i'r dwyrain, a Kermadec (Seland Newydd) i'r de-orllewin. Mae Tonga tua 1,800 cilometr (1,100 mi) o Ynys y Gogledd, Seland Newydd ac mae'n aelod o Gymanwlad Lloegr.
Daeth gwareiddiad Lapita i fyw i Tonga am y tro cyntaf tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl, sef gwladfawyr (neu 'wladychwyr') Polynesaidd a esblygodd yn raddol ei hunaniaeth ethnig ei hun, gyda iaith adiwylliant unigryw. Roeddent yn gyflym i sefydlu sylfaen bwerus ar draws De'r Môr Tawel, a gelwir y cyfnod hwn o ehangu a gwladychu Tonga yn Ymerodraeth Tui Tonga. O reolaeth y brenin Tongan cyntaf, ʻAhoʻeitu, tyfodd Tonga'n bŵer rhanbarthol. Gorchfygodd ac aeth ati i reoli rhannau o'r Môr Tawel, o rannau o Ynysoedd Solomon a'r cyfan o Caledonia Newydd a Ffiji yn y gorllewin i Samoa a Niue a hyd yn oed cyn belled â rhannau o Polynesia Ffrengig heddiw yn y dwyrain. Daeth Tuʻi Tonga yn enwog am ei dylanwad economaidd, ethnig, a diwylliannol dros y Môr Tawel, a barhaodd hyd yn oed ar ôl chwyldro Samoaidd y 13g a darganfyddiad Ewropeaid o'r ynysoedd yn 1616.[2]
Rhwng 1900 a 1970, roedd gan Tonga statws gwladwriaeth warchodedig Brydeinig hy roedd Lloegr wedi'i meddiannu, ei gwladychu. Gofalodd y DU am faterion tramor Tonga o dan Gytundeb Cyfeillgarwch Tonga, ond ni ildiodd Tonga ei sofraniaeth i unrhyw bŵer tramor. Yn 2010, cymerodd gam pendant i ffwrdd o'i brenhiniaeth absoliwt draddodiadol a daeth yn frenhiniaeth gyfansoddiadol gwbl weithredol, ar ôl i ddiwygiadau deddfwriaethol baratoi'r ffordd ar gyfer ei hetholiadau cynrychioliadol cyntaf. Fel a ddigwyddodd yn Lloegr, daeth y brenin a'r frenhines yn ddim mwy na phwped.
Etymoleg
[golygu | golygu cod]Mewn llawer o ieithoedd Polynesaidd, gan gynnwys Tongeg, mae'r gair yn deillio o fakatonga, sy'n golygu 'tua'r de'.[3][4][5] Enwir yr archipelago hefyd gyda'r enw hwn oherwydd dyma'r grŵp mwyaf deheuol ymhlith grwpiau ynysoedd gorllewin Polynesia.[6] Mae'r gair tonga yn gytras â'r gair Hawäieg "kona", sy'n golygu "yr ochr lle chwytha'r gwynt", sef tarddiad yr enw ar gyfer Ardal Kona yn Hawaii.[7]
Hanes
[golygu | golygu cod]Yn ôl mytholeg Tonganaidd, lluniodd y duw Maui grŵp o ynysoedd o'r cefnfor, gan ymddangos gyntaf yn Tongatapu, Ynysoedd Ha'apai a Vava'u, gan integreiddio i'r hyn a ddaeth yn Tonga heddiw.[8]
Roedd grŵp a siaraant yr ieithoedd Awstronesaidd yn gysylltiedig â'r hyn y mae archeolegwyr yn ei alw'n ddiwylliant Lapita. Roedd y grwp (neu'r bobl) yma i'w cael o Ynys Melanesia i Samoa, gan ehangu ymhellach a phreswylio yn Tonga rhwng 1500 a 1000 BC.[9] Mae ysgolheigion yn dal i ddadlau yn union pryd y setlwyd Tonga am y tro cyntaf, ond mae dyddio thoriwm diweddar yn cadarnhau bod gwladfawyr wedi cyrraedd y dref breswyl gynharaf y gwyddys amdani, Nukuleka, erbyn 888 CC, ± 8 mlynedd.[10] Rhannwyd hanes rhag-gyswllt Tonga trwy hanes llafar, a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth.
Erbyn y 12g, roedd y Tonganiaid a brenin Tongan y Tui Tonga, wedi ennill enw da ar draws canol y Môr Tawel – o Niue, Samoa, Rotuma, Wallis a Futuna, Caledonia Newydd i Tikopia, gan arwain rhai haneswyr i sôn am Ymerodraeth Tonga yn Nhwi yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae'n hysbys bod rhyfeloedd cartref wedi digwydd yn Tonga yn y 15g a'r 17g.
Daeth pobl Tongan ar draws gwladychwyr Ewropeaidd am y tro cyntaf yn 1616, pan ymwelodd llong Iseldiraidd yr <i id="mwpQ">Eendracht</i>, dan arweiniad Willem Schouten, â'r ynysoedd gyda'r diben o fasnachu. Yn ddiweddarach, cyrhaeddodd fforwyr eraill o'r Iseldiroedd, gan gynnwys Jacob Le Maire (a ymwelodd ag ynys ogleddol Niuatoputapu); ac Abel Tasman (a ymwelodd â Tongatapu a Ha'apai) yn 1643. Ymhlith yr ymwelwyr Ewropeaidd nodedig diweddarach oedd James Cook, o Lynges Lloegr, a hynny yn 1773, 1774, a 1777; fforwyr Llynges Sbaen Francisco Mourelle de la Rúa yn 1781; Alessandro Malaspina yn 1793; y cenhadon cyntaf o Lundain yn 1797; a gweinidog gyda'r Methodistiaid Wesleaidd, y Parchedig Walter Lawry, yn 1822.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Wedi'i leoli yn Oceania, mae Tonga yn archipelago yn Ne'r Môr Tawel, yn union i'r de o Samoa a thua dwy ran o dair o'r ffordd o Hawai'i i Seland Newydd. Rhennir ei 171 o ynysoedd, yn dri phrif grŵp - Vava'u, Ha'apai, a Tongatapu - sy'n gorchuddio llinell gogledd-de 800 cilometr (500 mi) o hyd.
Mae'r ynys fwyaf, Tongatapu, lle mae prifddinas Nuku'alofa wedi'i lleoli, yn gorchuddio 257 cilometr sgwar (99 milltir sgwar). Yn ddaearegol, mae ynysoedd Tongan o ddau fath: mae gan y rhan fwyaf sylfaen galchfaen a ffurfiwyd o ffurfiannau cwrel wedi codi; mae eraill yn cynnwys calchfaen a orchuddiwyd gan sylfaen folcanig .
Hinsawdd
[golygu | golygu cod]Mae gan Tonga hinsawdd fforest law drofannol gyda chyfnod cynnes rhwng Rhagfyr ac Ebrill, pan fydd y tymheredd yn codi uwchlaw 32 °C (89.6 °F), a chyfnod oerach (Mai-Tachwedd), gyda thymheredd nad yw'n codi'n aml uwchlaw 27 °C (80.6 °F). Mae'r tymheredd a'r glawiad yn amrywio o 23 °C (73.4 °F) a 1,700 milimetr (67 modfedd) ar Tongatapu yn y de i 27 °C (80.6 °F) a 2,970 milimetr (117 modf) ar yr ynysoedd mwy gogleddol yn nes at y Cyhydedd.
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Grwpiau ethnig
[golygu | golygu cod]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- On the Edge of the Global: Modern Anxieties in a Pacific Island Nation (2011) by Niko Besnier. Stanford, CA: Stanford University Press, ISBN 978-0-8047-7406-2
- Islanders of the South: Production, Kinship and Ideology in the Polynesian Kingdom of Tonga (1993) by Paul van der Grijp. Leiden: KITLV Press. ISBN 90 6718 058 0
- Identity and Development: Tongan Culture, Agriculture, and the Perenniality of the Gift (2004) by Paul van der Grijp. Leiden: KITLV Press. ISBN 90 6718 215 X
- Manifestations of Mana: Political Power and Divine Inspiration in Polynesia (2014) by Paul van der Grijp. Vienna and Berlin: LIT Verlag. ISBN 978-3-643-90496-6
- Becoming Tongan: An Ethnography of Childhood by Helen Morton
- Queen Salote of Tonga: The Story of an Era, 1900–65 by Elizabeth Wood-Ellem
- Tradition Versus Democracy in the South Pacific: Fiji, Tonga and Western Samoa by Stephanie Lawson
- Voyages: From Tongan Villages to American Suburbs Cathy A. Small
- Friendly Islands: A History of Tonga (1977). Noel Rutherford. Melbourne: Oxford University Press. ISBN 0-19-550519-0
- Tonga and the Tongans: Heritage and Identity (2007) Elizabeth Wood-Ellem. Alphington, Vic.: Tonga Research Association, ISBN 978-0-646-47466-3
- Early Tonga: As the Explorers Saw it 1616–1810. (1987). Edwin N Ferdon. Tucson: University of Arizona Press; ISBN 0-8165-1026-1
- The Art of Tonga (Ko e ngaahi'aati'o Tonga) by Keith St Cartmail. (1997) Honolulu : University of Hawai`i Press. ISBN 0-8248-1972-1
- The Tonga Book by Paul. W. Dale
- Tonga by James Siers
Bywyd gwyllt
[golygu | golygu cod]- Birds of Fiji, Tonga and Samoa by Dick Watling
- A Guide to the Birds of Fiji and Western Polynesia: Including American Samoa, Niue, Samoa, Tokelau, Tonga, Tuvalu and Wallis and Futuna by Dick Watling
- Guide to the Birds of the Kingdom of Tonga by Dick Watling
Teithlyfrau
[golygu | golygu cod]- Lonely Planet Guide: Samoan Islands and Tonga by Susannah Farfor and Paul Smitz
- Moon Travel Guide: Samoa-Tonga by David Stanley
Pobol
[golygu | golygu cod]- Martin Daly (2009). Tonga: A New Bibliography. University of Hawaii Press. ISBN 978-0-8248-3196-7. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 August 2020. Cyrchwyd 18 October 2015.
Ffuglen
[golygu | golygu cod]- Brian K. Crawford (2009). Toki: A Historical Novel. Brian K. Crawford. ISBN 978-0-557-03434-5. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 August 2020. Cyrchwyd 1 March 2018.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Tonga Population 2021 (Demographics, Maps, Graphs)". worldpopulationreview.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 October 2021. Cyrchwyd 28 October 2021.
- ↑ see writings of Ata of Kolovai in "O Tama a Aiga" by Morgan Tuimaleali'ifano; writings by Mahina, also coronation edition of Spasifik Magazine, "The Pacific Islands: An Encyclopedia," edited by Lal and Fortune, pp. 133–
- ↑ "Tonga". Merriam-Webster.com Dictionary, Merriam-Webster. Cyrchwyd 1 June 2022.
- ↑ Churchward, C.M. (1985) Tongan grammar, Oxford University Press, ISBN 0-908717-05-9
- ↑ "Tonga". The New Zealand Oxford Dictionary. Oxford University Press. 2005. doi:10.1093/acref/9780195584516.001.0001. ISBN 978-0-19-558451-6. Cyrchwyd 18 February 2022.
- ↑ "Search | English – Tongan Translator". www.tongantranslator.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 April 2018. Cyrchwyd 2018-04-29.
- ↑ Jolliffe, Lee, gol. (2010). Coffee Culture, Destinations and Tourism. Channel View Publications. t. 112. ISBN 9781845411923.
- ↑ "Maui's Fish Hook". Tonga Time. 9 April 2013. Cyrchwyd 14 March 2023.
- ↑ Kirch, Patrick Vinton (1997) The Lapita Peoples, Wiley, ISBN 1-57718-036-4.
- ↑ Burley, David (2012). "High precision U/Th dating of first Polynesian settlement". PLOS ONE 7 (11): e48769. Bibcode 2012PLoSO...748769B. doi:10.1371/journal.pone.0048769. PMC 3492438. PMID 23144962. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3492438.