Y Tŷ Glas
Math | adeilad gweinyddiaeth gyhoeddus, presidential palace |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1991 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Jongno District |
Gwlad | De Corea |
Cyfesurynnau | 37.586692°N 126.974864°E |
Cod post | 03048 |
Perchnogaeth | De Corea |
Swyddfa weithredol a chartref swyddogol Arlywydd Gweriniaeth Corea yw'r Tŷ Glas (Coreeg: 청와대; Hanja
Fe'i adeiladwyd ar safle gardd frenhinol Brenhinlin Joseon (1392–1897) ac nawr mae'n cynnwys Neuadd y Brif Swyddfa (Coreeg: 본관; Hanja
Hanes
[golygu | golygu cod]Saif Cheong Wa Dae ar safle fila brenhinhol yn ninas Hanyang, sef y ddinas fodern Seoul, prifddinas ddeuheuol Brenhinlin Goryeo (918–1392). Fe'i adeiladwyd gan y Brenin Sukjong (teyrnasai 1095–1105) ym 1104. Roedd prif brifddinas Goryeo yn Kaesŏng ac roedd ganddi prifddinas orllewinol hefyd yn Pyongyang a phrifddinas ddwyreiniol yn Gyeongju.
Ar ôl i Frenhinlin Joseon (1392–1910) symud ei phrifddinas i Hanyang, adeiladwyd Palas Gyeongbok ym 1395, pedwaredd flwyddyn teyrnasiad y Brenin Taejo (teyrnsai 1392–1398) yn brif balas i'r frenin, a daeth tir y fila brenhinol yn ardd gefn i'r palas. Câi ei ddefnyddio fel safle arholiadau'r gwasanaeth sifil a hyfforddiant milwrol.
Wedi i Ymerodraeth Japan gyfeddiannu Ymerodraeth Corea ym 1910, roedd Llywodraethwr Cyffredinol Corea yn defnyddio tiroedd y Gyeongbokgung ar gyfer prif adeilad gweithredol y llywodraeth. Ym 1939, adeiladodd Japan tŷ neu swyddfa swyddogol i'r Llywodraethwr Cyffredinol ar safle'r Tŷ Glas. Fe chwalwyd hwn yn nes ymlaen yn ystod arlywyddiaeth Kim Young-sam's presidency ym 1993.
Pan sefydlwyd Gweriniaeth Corea ym 1948, rhoddod yr Arlywydd Syngman Rhee yr enw "Gyeongmudae" (Coreeg: 경무대; Hanja:
Ym 1968, bu bron i asiantau cudd Gogledd Corea gyrraedd yr adeilad er mwyn llofruddio'r arlywydd Park Chung-hee yn ystod Cyrch y Tŷ Glas. Yn y ffrwgwd, fe laddwyd 28 o Goreaid y Gogledd, 26 o Goreaid y De a phedwar o Americanwyr.
Bu'r Arlywyddion Park Chung-hee, Choi Kyu-ha a Chun Doo-hwan yn ei ddefnyddio fel eu swyddfa a'u tŷ swyddogol hefyd. Tra oedd yr Arlywydd Roh Tae-woo mewn grym, adeiladwyd swyddfa, tŷ swyddogol a chanolfan i'r wasg newydd, o'r enw Chunchugwan. Agorwydd adeilad y brif swyddfa ym mis Ebrill 1991.
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Mae ardal y Tŷ Glas o bwys yn nhyb daearddewiniaid ers amser maith. Cadarnhawyd y gred hon gan arysgrifiad ar wal gerrig sydd yn dweud "Y Lle Bendigedicaf ar y Ddaear" a ddarganfuwyd y tu ôl i dŷ swyddogol yr arlywydd wrth godi adeilad newydd ym 1990.
I'r gogledd o hugiwawa, mae mynydd Bukhansan, rhwng dau fynydd, Naksan ar y chwith, sy'n symboleiddio'r Ddraig Las, ac Inwangsan ar y dde, sy'n symboleiddio'r Teigr Gwyn. I'r de, mae Namsan, mynydd amddifynnol y brifddinas, ac o'i flaen mae nant Cheonggyecheon ac afon Han.
-
Un o adeiladau Tŷ Croeso'r Cheongwadae
-
Adeilad arall gan y Tŷ Croeso
-
Ger mynedfa tiroedd y Tŷ Glas
-
Cofadail ar y ffordd o flaen y Tŷ Glas ac adeilad gweithredol yn y cefndir
-
Yr olygfa dros y Gyeongbokgung a'r Tŷ Glas ar waelod mynydd Bukaksan
-
Llun o'r Tŷ Glas o'r awyr
-
Ffynnon o flaen y Tŷ Glas
-
Pont sy'n cysylltu'r gerddi â'r Tŷ Croeso
-
Golgyfa o falconi yn y ganolfan ymwelwyr
-
Yr Arlywydd George W. Bush yn y Tŷ Glas ym mis Chwefror 2002
-
Yr Arlywyddion Barack Obama a Lee Myung-bak yn y Tŷ Glas ym mis Tachwedd 2010
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Romanization by the official website: english.president.go.kr
- ↑ "Cheong Wa Dae rules out renegotiation of FTA with US". Seoul: Yonhap News Agency. 20 November 2009. Cyrchwyd 12 Dec 2009.
- ↑ "Cheong Wa Dae Aims to End Graft in Defense Procurement". Chosun Ilbo. Seoul, South Korea. 9 December 2009. Cyrchwyd 12 December 2009.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Swyddfa'r Arlywydd
- Y Tŷ Glas ar Visit Korea Archifwyd 2015-09-17 yn y Peiriant Wayback