(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Partïon Plu
The Wayback Machine - https://web.archive.org/web/20220928120540/https://www.dgrhc.com/hen-parties/

Rhaid archebu gweithgareddau* ymlaen llaw drwy'r botwm BOOK NOW isod, ni allwn ddarparu ar gyfer archebion galw heibio. *Gall Parcio a Chwaraewyr sy'n mynychu sesiwn heb archebu ymlaen llaw gael eu gwrthod neu godi ffi ychwanegol o £5 y person os na fyddant yn archebu ymlaen llaw ar-lein.

ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Yn chwilio am leoliad unigryw i gael Parti Plu? Mae DGRhC, sydd ond yn daith fer mewn car o ganol dinas Caerdydd, yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau hwyliog gyda lefelau amrywiol o adrenalin – o sesiwn ymlaciedig o Badlfyrddio ar y dŵr llonydd i gyffro Rafftio Dŵr Gwyn. Dewiswch eich antur a mwynhewch y profiad Parti Plu perffaith. 

I'r rhai nad ydynt yn gallu dewis un yn unig, rydym yn cynnig amrywiaeth o wahanol weithgareddau, beth am roi cynnig ar Gychod Ci PoethTiwbioCherdded Ceunentydd.

*yn dibynnu ar faint o bobl rydych chi'n archebu drostynt, efallai y bydd cwsmeriaid eraill DGRhC yn cymryd rhan yn eich sesiwn gyda chi. 

Pam mae Caerdydd yn un o ddinasoedd gorau’r DU ar gyfer partïon plu?

Mae prifddinas fywiog Cymru dan ei sang gan antur ac adloniant, sy’n ei gwneud yn lle perffaith i fynd am barti plu. Mae Caerdydd yn cyfuno tirnodau eiconig lleol a bywyd nos heb ei ail â gweithgareddau parti plu cyffrous. Fyddwch chi fyth yn brin o syniadau! Hefyd, mae’n hawdd cerdded y ddinas felly cewch chi a’ch ffrindiau droedio o le i le yn ddiffwdan.

Os oes arnoch chi awydd parti plu ger y traeth, mae Caerdydd yn lle perffaith ar y glannau. Beth am gymryd hoe fach o’ch profiadau mentrus a mynd am dro ar hyd glan y dŵr? Neu os oes arnoch chi awch am antur, gallwch chi ychwanegu gwersi syrffio at firi’r penwythnos.

Mae digon o syniadau am benwythnos parti plu cyffrous ym mhrifddinas Cymru! O baradwys siopa Canolfan Dewi Sant i’r siopau bychain a’r trysorau cudd yn yr arcedau o oes Fictoria sydd hwnt ac yma ynghanol y ddinas, mae digonedd o gyfleoedd i chi i wario yng Nghaerdydd!

Taflwch rywfaint o ddiwylliant i’r gymysgedd o weithgareddau parti plu ac ewch i un (neu ychydig!) o'r cestyll yng Nghaerdydd, cyn mwynhau'r danteithion sydd i'w cael mewn bwytai o amgylch prifddinas Cymru. Gall partïon plu mwy actif ychwanegu unrhyw beth o feicio cwad i saethu clai at eu hamserlenni.

Mae cofrestru ar gyfer dosbarth meistr coctels yn ffordd wych o gychwyn y noson; fe gewch chi hwyl a chewch yfed eich creadigaethau blasus! Os yw’n well gennych chi i rywun arall wneud y diodydd, cewch fanteisio ar gynigion arbennig yn y llu o fars ffasiynol sydd yn y ddinas.

Wedi i chi gychwyn arni, ewch draw i un o’r clybiau nos lu sydd yng nghanol Caerdydd, lle cewch ddangos eich doniau dawnsio tan oriau mân y bore! Os ydych chi’n fwy o fenyw peint nag aderyn y nos chewch chithau chwaith mo’ch siomi – Caerdydd yw’r ddinas lle mae’r mwyaf o dafarndai fesul troedfedd sgwâr ym Mhrydain.

Llety i Bartïon Plu yng Nghaerdydd

Am benwythnos plu cwbl diffwdan, gallwch aros yn ein gwesty partner, yr Holiday Inn Express, Bae Caerdydd. Mae mewn lle cyfleus rhwng prysurdeb canol y ddinas a’r glannau godidog ac mae’r gwesty’n cynnig gostyngiad o 10% i westeion sydd wedi bwcio gweithgaredd gyda ni os ydyn nhw’n rhoi’r côd ‘CIWW’.

Mae ystafelloedd yr Holiday Inn yn ddigon mawr i grwpiau fel partïon plu felly rydych chi’n siŵr o gael lle cyfforddus a braf! Trefnwch eich llety ar gyfer y penwythnos plu drwy ffonio 029 2044 9000 neu e-bostio reservations@exhicardiff.co.uk. Dysgwch fwy am y gwesty yn www.exhicardiff.co.uk

Gwiriwch Argaeledd ar-lein drwy'r botwm 'BOOK NOW'.