Arthur Evans
archaeolegydd ac ysgolhaig Prydeinig (1851-1941)
Hynafiaethydd ac archaeolegydd o Loegr oedd Syr Arthur John Evans (8 Gorffennaf 1851 – 11 Gorffennaf 1941).[1] Fe'i ganwyd yn Nash Mills, Swydd Hertford yn fab i'r diwydiannwr a'r archaeolegydd Syr John Evans (1823 - 1908).
Arthur Evans | |
---|---|
Ganwyd | Arthur John Evans 8 Gorffennaf 1851 Nash Mills |
Bu farw | 11 Gorffennaf 1941 Youlbury House |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Addysg | doethuriaeth, Doethur mewn Athrawiaeth, gradd er anrhydedd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | anthropolegydd, hanesydd celf, archeolegydd, nwmismatydd |
Swydd | President of the Royal Numismatic Society |
Prif ddylanwad | John Evans |
Tad | John Evans |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Aur Frenhinol, Medal Copley, Marchog Faglor, Medal of the Royal Numismatic Society, Cymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr, Cymrawd yr Academi Brydeinig, Huntington Medal Award, Medal Lyell, Medal Goffa Huxley, honorary doctor of the University of Bordeaux |
Roedd Arthur Evans yn geidwad Amgueddfa'r Ashmolean yn Rhydychen o 1884 hyd 1908, lle ymddiddorai mewn arian bath hynafol a seiliau hen wareiddiad Crete.
Fe'i cofir yn bennaf am ei waith archaeolegol arloesol yn cloddio safle Knossos, ar ynys Crete, prifddinas y Gwareiddiad Minoaidd, rhwng 1899 a 1935.
Llyfryddiaeth
golygu- Evans, Joan, Time and Chance: The Story of Arthur Evans and His Forebears (Llundain: Longmans, Green & Co., 1943)
- MacGillivray, Joseph Alexander, Minotaur: Sir Arthur Evans and the Archaeology of the Minoan Myth (Efrog Newydd: Hill & Wang, 2000 (ISBN 0-224-04352-8); Llundain: Jonathan Cape, 2000 (ISBN 0-224-04352-8); Llundain: Pimlico, 2001 (clawr meddal, ISBN 0-7126-7301-6).
- ↑ Myres, J. L. (1941). "Arthur John Evans. 1851–1941" (yn en). Obituary Notices of Fellows of the Royal Society 3 (10): 940–968. doi:10.1098/rsbm.1941.0044.