(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Dolgellau - Wicipedia

Dolgellau

tref yng Ngwynedd

Tref farchnad a chymuned yng Ngwynedd, yw Dolgellau. Saif yn ne'r sir, ger mynydd Cader Idris. Mae afon Wnion, un o lednentydd Afon Mawddach, yn llifo trwy’r dref gan basio dan Y Bont Fawr.

Dolgellau
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,602 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iGwenrann Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaLlanfachreth Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.7431°N 3.8856°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000061 Edit this on Wikidata
Cod OSSH728178 Edit this on Wikidata
Cod postLL40 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Caerdydd 148.3 km i ffwrdd o Ddolgellau ac mae Llundain yn 292.5 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 56 km i ffwrdd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Cerflun o Grist yn eglwys "Our Lady of Seven Sorrows", yn Nolgellau, Cymru, gan yr arlunydd Giannino Castiglioni, 1966

Hanes ac economi

golygu
 
Ffotograff a gymerwyd rhwng 1890 a 1900

Cyn y cyfnod Rhufeinig yr oedd yr ardal y mae Dolgellau yn sefyll ynddi yn rhan o diroedd yr Ordoficiaid, sef un o lwythau Celtaidd Cymru a orchfygwyd gan y Rhufeinwyr yn OC 77/78. Er y darganfuwyd ychydig o darnau arian o gyfnodau yr ymherodwyr Hadrian a Trajan ger Dolgellau, mae’r ardal yn gorsog ac nid oes tystiolaeth iddi gael ei chyfanheddu yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Serch hynny, saif tair o fryngaerau ger Dolgellau, er na wyddys yn sicr pwy a'u adeiladodd.

Wedi i’r Rhufeiniaid adael, daeth yr ardal dan rheolaeth cyfres o benaethiaid Cymreig, ond mae’n debyg na fodolodd trigfa sefydledig yno tan ddiwedd y 11eg neu ddechrau’r 12g, pan y’i sefydlwyd yn faerdref, o bosibl gan Gadwgan ap Bleddyn. Tref o daeogion yng ngwasanaeth yr arglwydd neu dywysog lleol oedd maerdref, ac ni newidiwyd y statws hwn ar Ddolgellau tan deyrnasiad Harri VII (1485-1509).

 
O hirbell

Adeiladwyd eglwys rywbryd yn y 12g (fe’i chwalwyd a disodli gan yr adeilad presennol ym 1716), er mai Abaty Cymer, a sefydlwyd ym 1198 yn Llanelltyd, oedd y ganolfan grefyddol bwysicaf yn wreiddiol. Dechreuodd pwysigrwydd Dolgellau dyfu yn y cyfnod hwn ac fe’i chrybwyllwyd ym Mesuriad Tir Meirionnydd, a archebwyd gan Edward I (ni chrybwyllwyd Llanelltyd). Ym 1404 cynhaliwyd cyngor penaethiaid yno gan Owain Glyndŵr; saif Senedd-dy Owain Glyndŵr ar hen safle'r senedd wreiddiol.

Wrth i George Fox ymweld a’r dref ym 1657, daeth llawer o drigolion Dolgellau i fod yn Grynwyr. Oherwydd erledigaeth ymfudodd llawer ohonynt i Bennsylfania ym 1686, dan arweiniant Rowland Ellis, ffermwr bonheddig lleol. Enwyd tref Bennsylfaenig Bryn Mawr ar ôl fferm Ellis, ger Dolgellau.

Datblygodd y diwydiant gwlân yn Nolgellau i fod o’r pwysigrwydd eithaf i’r economi lleol; erbyn diwedd y 18g cyfrifwyd bod gwerth blynyddol £50,000 i £100,000 ar allgynnyrch gwlân Dolgellau. Serch hynny, dechreuodd y diwydiant ddirywio yn hanner cyntaf y 19g oherwydd dyfodiad y gwŷdd mecanyddol a diwedd y gaethfasnach. Allforio gwlân Cymreig i wisgo caethweision ym mhlanhigfeydd America oedd un o brif farchnadoedd y diwydiant[3]. Cyfrannydd arall i economi Dolgellau, er yr un cyfnod, oedd barcio; parhaodd hyn tan y 1980au, er ar radd llawer iawn llai.

Pan ddarganfuwyd aur yn ardal Dolgellau yn y 19g, brysiodd llwyth o ymchwilwyr yno. Ar un pryd cyflogwyd mwy na 500 o weithwyr yn y pyllau aur lleol. Pery hyn ar radd llawer iawn llai hyd heddiw ym mhyllau aur Gwynfynydd, un o ffynonellau prin aur Cymru.

Heddiw mae economi Dolgellau yn dibynnu'n bennaf ar dwristiaeth (gweler isod, er bod amaethyddiaeth yn chwarae rhan o hyd; cynhelir marchnad ffermwyr yng nghanol y dref bob mis.

Yr enw "Dolgellau"

golygu
 
Canol Dolgellau

Ni wyddys dim yn sicr am darddiad enw 'Dolgellau'. Mae’n debyg y tardd o'r geiriau “dol” a “gelli”, er yr awgrymwyd deilliannau megis “dol cellïau” neu “dol cellau [mynachod]” hefyd; oherwydd hanes yr enw, fodd bynnag, nid yw rhain mor debygol.

Ceir yr enghreifftiau cynharaf o enw'r dref mewn cofnodion gwladol Seisnig ac felly maent yn llurguniadau o'r Gymraeg. "Dolkelew" yw’r sillafiad cynharaf a wyddys amdano (1253, Mesuriad Tir Meirionnydd[4], ond gwelir y sillafiad "Dolgethley" ym 1285 (mae’r thl yn sicr yn gais i gynrychioli’r sain Gymraeg ll). Mewn dogfen a luniwyd ar gyfer Owain Glyndŵr, ceir y ffurf "Dolguelli". Wedi hynny tan y 19g, gwelir sillafiadau megis "Dolgelley", "Dolgelly" neu "Dolgelli". Defnyddiodd Thomas Pennant y ffurf "Dolgelleu" yn ei lyfr Tours of Wales, a dyna’r ffurf a ddefnyddiwyd yng Nghofrestri’r Eglwys ym 1723, ond nid oedd y ffurf hon fyth yn gyfredol iawn. Yng Nghofrestri’r Eglwys ym 1825 defnyddir y ffurf "Dolgellau", a mabwysiadodd Robert Vaughan o'r Hengwrt y ffurf hon ym 1836; mae’n bosibl fod y ffurf yn seiliedig ar y rhagdybiaeth mai "Dol Cellau" yw tarddiad yr enw. Hwn yw'r sillafiad safonol heddiw yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd, ond fe'i dderbyniwyd yn gynharaf yn y naill iaith na'r llall: "Dolgellau" a ysgrifennodd Islwyn Ffowc Elis ym 1949 yng Nghysgod y Cryman, ond parhaodd y sillafiad "Dolgelley" ar arwyddion ffordd tan 1958 pan mabwysiadodd y cyngor lleol y sillafiad "Dolgellau" fel enw safonol y dref.

Cysylltiadau llenyddol

golygu

Yn Nolgellau roedd yr awdur Cymraeg Marion Eames yn byw, a ysgrifennodd y nofel Y Stafell Ddirgel sy'n seiliedig ar hanes y Crynwyr a ymfudodd o Ddolgellau i'r Amerig ym 1686.

Cadwodd Robert Vaughan (1592-1667) lyfrgell helaeth yn yr Hengwrt, ger Dolgellau, yn cynnwys trysorau fel Llyfr Taliesin, Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Gwyn Rhydderch. Adnabyddir ei gasgliad wrth yr enw Llawysgrifau Hengwrt.

Bu sawl bardd a llenor o bwys yn byw yn yr ardal, gan gynnwys Dafydd Ionawr, O. M. Lloyd, Bethan Gwanas, Morus Cyfanedd ac Ioan Bowen Rees.

Yn y byd cerddorol bu Dolgellau yn gartref i ddiwylliant gwerin Cymru. Roedd gwyl werin yno yn y 1950au a ddilynwyd yn y 70au a'r 80au gan yr Wyl Werin Geltaidd, Dilynwyd honno gan y Sesiwn Fawr yn 1990au hyd heddiw, fel a welir isod. Ond hefyd daeth cerddoriaeth werin o'r dref gyda Cilmeri (grwp), Côr Gwerin y Gader, Defaid a Gwerinos dros gyfnod o ugain mlynedd o'r 1980au ymlaen. Bu sesiynau gwerin mewn tafarndai yn rhan naturiol o fywyd y dref hefyd drwy'r cyfnod hwn gyda sefydlu Tŷ Siamas yn benllanw.

Atyniadau lleol

golygu
 
Dolgellau a Mynydd Moel (Cader Idris i'r dde tu hwnt i'r llun)

Atynna ardal Dolgellau filoedd o dwristiaid bob blwyddyn oherwydd harddwch naturiol yr ardal. Daw rhan helaeth ohonynt er mwyn cerdded, heicio, beicio mynydd, marchogi, rafftio a dringo, yn enwedig ar lethrau Cader Idris.

Mae anturiaethau awyr agored yn boblogaidd yn yr ardal ac yn denu twristiaid. Lleolir Coedwig Dyfi i'r de o'r dref sy'n cynnwys sawl llwybr cerdded a llwybr beicio mynydd.

Agorwyd gorsaf trên Dolgellau – yn rhan o’r Great Western Railway - ym 1868. Caewyd y rheilffordd yn y 1960au gan Dr Beeching. Heddiw rhed "Llwybr Mawddach", sef llwybr i gerddwyr a beicwyr, ar hyd yr hen reilffordd.

Mae atyniadau hanesyddol yn cynnwys gweddillion Abaty Cymer, tua hanner milltir o'r dref. Mae hefyd fynwent Crynwyr yn y dref. Yn Ninas Mawddwy, sef pentref ger Dolgellau, mae cae o’r enw Camlan a gysylltir gan rai â'r Brenin Arthur (gweler Camlan).

Digwyddiadau diwylliannol

golygu
 
Sesiwn Fawr 2005

Er 1992 cynhelir gŵyl cerddoriaeth byd "Sesiwn Fawr" yn Nolgellau. Fe’i chynhaliwyd yn wreiddiol ar strydoedd y dref, ond tyfodd yn rhy fawr i ganol Dolgellau. Er 2002 cymer le ar gyrion Dolgellau a chodir tâl am fynediad. Defnyddiwyd yr arian i atynnu perfformwyr megis Cerys Matthews, Steve Earle, Mike Peters, a Super Furry Animals. Daw torfeydd o dros 5,000 o bobl i Sesiwn Fawr yn flynyddol ac honnir bod yr ŵyl yn un o brif wyliau cerddoriaeth byd Ewrop. Er 1995 darlledir yr ŵyl ar BBC Radio Cymru ac er 1997 ar S4C.

Bob haf cynhelir hefyd Ŵyl Cefn Gwlad yn Nolgellau, sef cymysg o Sioe Amaethyddol a ffair. Mae mynediad am ddim ond rhoddir yr arian a godir yn y gwahanol stondinau i achosion elusengar.

Ym 1949 cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Nolgellau ac yn fwy ddiweddar ym 1994 Eisteddfod yr Urdd.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Dolgellau (pob oed) (2,688)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Dolgellau) (1,694)
  
64.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Dolgellau) (1793)
  
66.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Dolgellau) (539)
  
42.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Ddolgellau

golygu

Gefeilliwyd Dolgellau â Gwenrann yn Llydaw (Gwenrann yw'r enw Llydaweg: Guérande yw'r enw Ffrangeg).

Llyfrau hanes lleol

golygu
  • Dolgellau. 4, Tai Tafarnau a Gwestai = Inns,Taverns & Hotels, Tomos, Merfyn Wyn; Nereus, 2023., ISBN: 9780995655669
  • Tydi'r sgwâr ddim digon mawr: hynt a helynt y Sesiwn Fawr 1992-2022; Myfyr, Ywain, Gwasg Carreg Gwalch, 2022, ISBN: 9781845278687
  • Dolgellau. 3, Diwydiant a Masnach = Industry & Commerce, Tomos, Merfyn Wyn; Nereus, 2018., ISBN: 9780995655638
  • Dolgellau a'r Rhyfel Mawr, Sheppard, Dafydd. T., 2014. Bywgraffiadau y rhai a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf
  • Dolgellau and The Great War, Sheppard, Dafydd. T., 2014. (Fersiwn Saesneg o'r uchod)
  • Dolgellau 2: Tomos, Merfyn Wyn. (Hen luniau) Gwasanaeth Archifau Gwynedd, 2013, ISBN: 9780956322968,
  • Dolgellau Tomos, Merfyn Wyn. (Hen luniau) : Nereus 2011, ISBN: 9780956322920
  • Dolgellau names and stories : searching for the lives behind the names : rectors of Dolgellau from medieval times.; 2010, Cyhoeddiad gan yr awdur
  • Dolgellau, Gwasanaeth Archifau Gwynedd, 1976 (Hen luniau o'r archifdy)
  • The story of two parishes: Dolgelley and Llanelltyd. Ellis, Thomas Peter: Trallwng: Welsh Outlook Press, 1928.[12]
  • Diwrnod yn Nolgellau; Williams, Robert Thomas, (Trebor Môn). Caernarfon : W. Gwenlyn Evans, 1904.[13]
  • Hanes Dolgellau a'r cymydogaethau, yngyda hynafiaethau gorllewin Meirionydd, John Jones (Idris Fychan). Treffynnon : P. M. Evans, 1872.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. Evans, C. P. (Chris P.) (2010). Slave Wales : the Welsh and Atlantic slavery, 1660-1850. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 978-0-7083-2304-5. OCLC 700466934.
  4. Ellis, Thomas Peter The STORY OF TWO PARISHES DOLGELLEY & LLANELLTYD The Welsh Outlook Press Newtown 1928 (fersiwn ar lein http://www.rootsweb.ancestry.com/~wlsmer2/DolgaLLan/dolgelley_church.htm) adalwyd 14 Hydref 2013
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. "JONES, EDWARD (1834-1900), meddyg ac arweinydd llywodraeth leol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-19.
  9. OWEN, OWEN JOHN (' John Owen y Fenni '; 1867 - 1960), argraffydd a chyhoeddwr, arweinydd corawl ac arweinydd eisteddfodol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 12 Medi 2023
  10. JONES, Syr CADWALADR BRYNER (1872 - 1954), gŵr amlwg yn hanes addysg amaethyddol Cymru a gwas sifil o fri. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 12 Medi 2023
  11. ELLIS, THOMAS PETER (1873 - 1936), barnwr I.C.S. (h.y. gwasanaeth gwladol yr India), awdurdod ar gyfreithiau arferiadol y Punjab a chyfreithiau Cymru yn y Canol Oesoedd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 12 Medi 2023
  12. "Dolgelley & Llanelltyd Contents". sites.rootsweb.com. Cyrchwyd 2024-10-04.
  13. Diwrnod yn Nolgellau ar Wicidestun

Dolenni allanol

golygu