Gwerddon
Mae gwerddon (Saesneg oasis) yn ardal yn yr anialwch lle ceir dŵr a thyfiant. Gall fod yn ffynnon fechan unigol â phalmwydd a phlanhigion eraill yn tyfu o'i chwmpas, neu'n ardal bur sylweddol lle ceir tabl dŵr dan wyneb y tir.
- Gweler hefyd Gwerddon (cylchgrawn).
Er y gellir cael gwerddonau mewn unrhyw anialdir, fe'u cysylltir yn bennaf ag anialwch y Sahara ac anialdiroedd mawr Arabia, Iran a rhannau sych Canolbarth Asia. [angen ffynhonnell] Mae'r gwerddonau pwysicaf yn gartref i drefi a phentrefi ac yn aml iawn yn llefydd hynafol sydd wedi cael eu defnyddio ers cyn cof gan y trigolion lleol ac fel arwyddion ar hen lwybrau masnach Affrica (e.e. dros y Sahara rhwng Algeria a Tombouctou ym Mali) ac Asia (e.e. Llwybr y Sidan rhwng y Môr Canoldir a Tsieina).