John Edward Lloyd
Hanesydd a golygydd o Gymru oedd Syr John Edward Lloyd (oedd yn ysgrifennu fel J E Lloyd) (5 Mai 1861 – 20 Mehefin 1947), a'r hanesydd cyntaf i osod hanes cynnar Cymru ar seiliau cadarn.
John Edward Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | 5 Mai 1861 Lerpwl |
Bu farw | 20 Mehefin 1947 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd, gwleidydd |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Bywgraffiad
golyguGaned ef yn Lerpwl i rieni o Gymru, a bu'n fyfyriwr yn ngholeg Aberystwyth ac yna yng Ngholeg Lincoln, Prifysgol Rhydychen. Yn Rhydychen daeth i gysylltiad a Chymry eraill megis Owen Morgan Edwards, a bu ganddo ran flaenllaw yn y mudiad Cymru Fydd. Daeth yn ddarlithydd ar hanes Cymru yn Aberystwyth cyn dod yn bennaeth cyntaf Adran Hanes Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Ystryrir ei lyfr A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (1911) yn glasur, a hyd yn oed bron ganrif ar ôl dyddiad ei gyhoeddi mae'n parhau yn ffynhonnell werthfawr ar gyfer hanes y cyfnod.
Ymhlith ei lyfrau eraill mae hanes gwrthryfel Owain Glyndŵr, Owen Glendower (1931). Ef oedd golygydd Y Bywgraffiadur Cymreig, er na chyhoeddwyd y gyfrol tan ar ôl ei farw. Gwnaed ef yn farchog yn 1934. Claddwyd ef ym mynwent Eglwys Tysilio ar Ynys Dysilio ger Porthaethwy.
Cyfansoddodd ei gyfaill Saunders Lewis farwnad gofiadwy iddo sydd ymhlith y mwyaf nodedig o gerddi Cymraeg yr ugeinfed ganrif.
Llyfryddiaeth
golygu- Gwaith J.E. Lloyd (detholiad)
- A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (1911)
- Carnarvonshire (Cambridge County Geographies) (1911)
- Owen Glendower (1931)
- Astudiaethau
- Hugh Pryce J. E. Lloyd and the Creation of Welsh History (Gwasg Prifysgol Cymru, 2011)