Ludwig van Beethoven: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) B Gwybodlen wicidata |
Yn dileu "DBP_-_200_Jahre_Beethoven_-_10_Pfennig_-_1970.jpg". Cafodd ei dileu oddi ar Gomin gan Rosenzweig achos: per c:Commons:Deletion requests/Files in Category:Stamps by Heinz Schillinger. |
||
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 5 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Person |
|||
{{Gwybodlen person/Wicidata |
|||
| fetchwikidata=ALL |
| fetchwikidata=ALL |
||
| onlysourced=no |
| onlysourced=no |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
| dateformat = dmy |
| dateformat = dmy |
||
}} |
}} |
||
[[Cyfansoddwr]] [[Yr Almaen|Almaenig]] o'r cyfnod clasurol oedd '''Ludwig van Beethoven''' ([[17 Rhagfyr]] [[1770]] – [[26 Mawrth]] [[1827]]), er bod ei gyfansoddiadau yn cael eu hystyried fel enghreifftiau cyntaf y cyfnod [[Rhamantaidd]]. Er iddo golli ei [[Clyw|glyw]] yn hanner olaf ei oes, parhaodd i gyfansoddi darnau cyffrous, ac fe'i hystyrir yn un o'r cyfansoddwyr gorau erioed. Ymysg ei weithiau mwyaf enwog mae ei [[Symffoni rhif 5 (Beethoven)|bumed]] a'i [[Symffoni rhif 9 (Beethoven)|nawfed]] symffoni, y darn piano "[[Für Elise]]", y sonata "[[Pathétique]]" a'r sonata "[[Lloergan]]". |
|||
== Cefndir == |
|||
Ganwyd Beethoven yn [[Bonn]], yn blentyn hynaf Johann a Maria Magdalena van Beethoven. Does dim sicrwydd am ddiwrnod ei eni, ond cafodd ei [[Bedydd|fedyddio]] ar 17 Rhagfyr 1770.<ref>{{Cite web|title=Beethoven: Compositions, biography, siblings and more facts|url=https://www.classicfm.com/composers/beethoven/guides/beethoven-20-facts-about-great-composer/|website=Classic FM|access-date=2021-04-13|language=en}}</ref> Mae'r adeilad lle cafodd ei eni bellach yn cael ei ddefnyddio fel amgueddfa Beethoven-Haus.<ref>{{Cite web|title=Beethoven-Haus Bonn|url=https://www.beethoven.de/en/about-us#history|website=Beethoven-Haus Bonn|access-date=2021-04-14|language=en|first=Beethoven-Haus|last=Bonn|first2=Beethoven-Haus|last2=Bonn}}</ref> Roedd y teulu o darddiad [[Ffleminiaid|Ffleminaidd]] a gellir ei olrhain yn ôl i [[Mechelen]]. Taid Beethoven oedd wedi ymgartrefu gyntaf yn Bonn pan ddaeth yn ganwr yng nghôr archesgob-etholwr [[Cwlen]]; cododd yn y pen draw i ddod yn Kapellmeister. Roedd ei fab Johann hefyd yn ganwr yng nghôr Etholwr Bonn, Maximilian Friedrich. Er eu bod yn eithaf llewyrchus ar y dechrau, daeth teulu Beethoven yn raddol dlotach gyda marwolaeth y taid ym 1773 ac effaith alcoholiaeth ar y tad. Erbyn ei fod yn 11 oed roedd yn rhaid i Beethoven adael yr ysgol. Erbyn 18 oed ef oedd y prif ddarparwr ar gyfer anghenion y teulu.<ref>{{Cite web|title=Ludwig van Beethoven {{!}} Biography, Music, & Facts|url=https://www.britannica.com/biography/Ludwig-van-Beethoven|website=Encyclopedia Britannica|access-date=2021-04-13|language=en}}</ref> |
|||
== Hyfforddiant cerddorol == |
|||
Bu perfformiad cyhoeddus cyntaf Beethoven ar 26 Mawrth 1778 lle bu'n canu nifer o wahanol offerynnau.<ref>{{Cite web|title=Beethoven: Background|url=https://www.its.caltech.edu/~tan/BeethovenMissaSolemnis/background_on_beethoven.html|website=www.its.caltech.edu|access-date=2021-04-14}}</ref> |
|||
Bryd hynny anfonwyd ef at organydd y llys Gilles van den Eeden, i ddysgu theori cerddoriaeth ac i gael hyfforddiant ar yr [[Allweddell|allweddellau]]. Ymddengys iddo hefyd gael gwersi piano gan Tobias Friedrich Pfeiffer, a fu'n lletya am gyfnod gyda'r teulu, a hyfforddiant anffurfiol gan sawl organydd lleol. Rhoddodd perthynas i'r teulu, Franz Rovantini, wersi i'r bachgen ar y ffidil a'r fiola.<ref name="Grove">{{Cite web|title=Beethoven, Ludwig van|url=https://www.oxfordmusiconline.com/grovemusic/view/10.1093/gmo/9781561592630.001.0001/omo-9781561592630-e-0000040026|website=Grove Music Online|access-date=2021-04-14|doi=10.1093/gmo/9781561592630.article.40026|language=en}}</ref> |
|||
Ym 1779, penododd yr etholwr y cerddor amlwg Christian Gottlob Neefe fel cyfarwyddwr ei gwmni theatr a'r flwyddyn ganlynol fe'i dyrchafwyd i fod yn organydd y llys. Cymerodd Neefe Beethoven fel disgybl cerddorol.<ref name="Grove" /> |
|||
Pan fu'n raid i Neefe ymadael â Bonn ym 1782 am gyfnod, penododd Bethoven, a oedd yn 11 oed ar y pryd, i gyflenwi drosto yn ei absenoldeb. Ym 1783 penodwyd Beethoven gan Neefe yn offerynnwr yr allweddellau yn y gerddorfa ac yn hydref yr un flwyddyn goruchwyliodd gyhoeddiad cyntaf y cerddor ifanc; tair sonata i'r piano a gyflwynwyd i'r Etholwr Maximilian Friedrich. Doedd Beethoven ddim yn cael cyflog na thâl swyddogol am y swyddi y penododd Neefe ef iddynt; yn fwy na dim, roedd yn cyflawni'r dyletswyddau yn gyfnewid am ei hyfforddiant. |
|||
---- |
---- |
||
[[Image:DBP - 200 Jahre Beethoven - 10 Pfennig - 1970.jpg|bawd|chwith|130px]] |
|||
==Cyfeiriadau== |
|||
{{cyfeiriadau}} |
|||
{{Commons|Ludwig van Beethoven}} |
{{Commons|Ludwig van Beethoven}} |
||
Llinell 17: | Llinell 30: | ||
{{DEFAULTSORT:Beethoven, Ludwig van}} |
{{DEFAULTSORT:Beethoven, Ludwig van}} |
||
[[Categori: |
[[Categori:Ludwig van Beethoven]] |
||
[[Categori:Genedigaethau 1770]] |
[[Categori:Genedigaethau 1770]] |
||
[[Categori:Marwolaethau 1827]] |
[[Categori:Marwolaethau 1827]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:43, 13 Awst 2023
Ludwig van Beethoven | |
---|---|
Ganwyd | 16 Rhagfyr 1770 Bonn |
Bedyddiwyd | 17 Rhagfyr 1770 |
Bu farw | 26 Mawrth 1827 o sirosis Fienna |
Man preswyl | Beethoven House |
Dinasyddiaeth | Electorate of Cologne, Ymerodraeth Awstria |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, pianydd, arweinydd, athro cerdd, organydd, meistr ar ei grefft, byrfyfyriwr, fiolinydd, ysgrifennwr |
Adnabyddus am | Für Elise, Symffoni Rhif 9, Lloergan, Missa Solemnis, Sonata Rhif 8 i'r Piano, Symffoni Rhif 5, Symffoni Rhif 6, Sonata Rhif 21 i'r Piano, Sonata Rhif 23 i'r Piano, Sonata Rhif 9 i'r Ffidil, Symffoni Rhif 3, Fidelio |
Prif ddylanwad | Johann Joseph Fux, Johann Sebastian Bach, Josef Haydn, Wolfgang Amadeus Mozart |
Mudiad | Cyfnod clasurol, cerddoriaeth ramantus |
Tad | Johann Van Beethoven |
Mam | Maria Magdalena van Beethoven |
Perthnasau | Karl van Beethoven, Josyne van Beethoven |
Gwobr/au | Gwobr y Bröckemännche |
Gwefan | http://www.beethoven-haus-bonn.de |
llofnod | |
Cyfansoddwr Almaenig o'r cyfnod clasurol oedd Ludwig van Beethoven (17 Rhagfyr 1770 – 26 Mawrth 1827), er bod ei gyfansoddiadau yn cael eu hystyried fel enghreifftiau cyntaf y cyfnod Rhamantaidd. Er iddo golli ei glyw yn hanner olaf ei oes, parhaodd i gyfansoddi darnau cyffrous, ac fe'i hystyrir yn un o'r cyfansoddwyr gorau erioed. Ymysg ei weithiau mwyaf enwog mae ei bumed a'i nawfed symffoni, y darn piano "Für Elise", y sonata "Pathétique" a'r sonata "Lloergan".
Cefndir[golygu | golygu cod]
Ganwyd Beethoven yn Bonn, yn blentyn hynaf Johann a Maria Magdalena van Beethoven. Does dim sicrwydd am ddiwrnod ei eni, ond cafodd ei fedyddio ar 17 Rhagfyr 1770.[1] Mae'r adeilad lle cafodd ei eni bellach yn cael ei ddefnyddio fel amgueddfa Beethoven-Haus.[2] Roedd y teulu o darddiad Ffleminaidd a gellir ei olrhain yn ôl i Mechelen. Taid Beethoven oedd wedi ymgartrefu gyntaf yn Bonn pan ddaeth yn ganwr yng nghôr archesgob-etholwr Cwlen; cododd yn y pen draw i ddod yn Kapellmeister. Roedd ei fab Johann hefyd yn ganwr yng nghôr Etholwr Bonn, Maximilian Friedrich. Er eu bod yn eithaf llewyrchus ar y dechrau, daeth teulu Beethoven yn raddol dlotach gyda marwolaeth y taid ym 1773 ac effaith alcoholiaeth ar y tad. Erbyn ei fod yn 11 oed roedd yn rhaid i Beethoven adael yr ysgol. Erbyn 18 oed ef oedd y prif ddarparwr ar gyfer anghenion y teulu.[3]
Hyfforddiant cerddorol[golygu | golygu cod]
Bu perfformiad cyhoeddus cyntaf Beethoven ar 26 Mawrth 1778 lle bu'n canu nifer o wahanol offerynnau.[4]
Bryd hynny anfonwyd ef at organydd y llys Gilles van den Eeden, i ddysgu theori cerddoriaeth ac i gael hyfforddiant ar yr allweddellau. Ymddengys iddo hefyd gael gwersi piano gan Tobias Friedrich Pfeiffer, a fu'n lletya am gyfnod gyda'r teulu, a hyfforddiant anffurfiol gan sawl organydd lleol. Rhoddodd perthynas i'r teulu, Franz Rovantini, wersi i'r bachgen ar y ffidil a'r fiola.[5]
Ym 1779, penododd yr etholwr y cerddor amlwg Christian Gottlob Neefe fel cyfarwyddwr ei gwmni theatr a'r flwyddyn ganlynol fe'i dyrchafwyd i fod yn organydd y llys. Cymerodd Neefe Beethoven fel disgybl cerddorol.[5]
Pan fu'n raid i Neefe ymadael â Bonn ym 1782 am gyfnod, penododd Bethoven, a oedd yn 11 oed ar y pryd, i gyflenwi drosto yn ei absenoldeb. Ym 1783 penodwyd Beethoven gan Neefe yn offerynnwr yr allweddellau yn y gerddorfa ac yn hydref yr un flwyddyn goruchwyliodd gyhoeddiad cyntaf y cerddor ifanc; tair sonata i'r piano a gyflwynwyd i'r Etholwr Maximilian Friedrich. Doedd Beethoven ddim yn cael cyflog na thâl swyddogol am y swyddi y penododd Neefe ef iddynt; yn fwy na dim, roedd yn cyflawni'r dyletswyddau yn gyfnewid am ei hyfforddiant.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Beethoven: Compositions, biography, siblings and more facts". Classic FM (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-13.
- ↑ Bonn, Beethoven-Haus; Bonn, Beethoven-Haus. "Beethoven-Haus Bonn". Beethoven-Haus Bonn (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-14.
- ↑ "Ludwig van Beethoven | Biography, Music, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-13.
- ↑ "Beethoven: Background". www.its.caltech.edu. Cyrchwyd 2021-04-14.
- ↑ 5.0 5.1 "Beethoven, Ludwig van". Grove Music Online (yn Saesneg). doi:10.1093/gmo/9781561592630.article.40026. Cyrchwyd 2021-04-14.