Montpellier
Gwedd
![](https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/46/Montpellier%28France%291.JL.jpg/250px-Montpellier%28France%291.JL.jpg)
Dinas yn ne Ffrainc a phrifddinas département Hérault a region Languedoc-Roussillon yw Montpellier (Ocsitaneg Montpelhièr).
Roedd poblogaeth y ddinas tua 244,700 yn 2004, ac amcangyfrifwyd bod poblogaeth yr ardal ddinesig yn 531,000 yn 2007. Saif y ddinas rhyw 6 km o arfordir y Môr Canoldir. Crybwyllir Montpellier gyntaf mewn dogfen o 985.