Ludwig van Beethoven
Gwedd
Ludwig van Beethoven cyfansoddwr | |
Geni: |
cyn 17 Rhagfyr 1770 Bonn, yr Almaen |
Marw: |
26 Mawrth 1827 Fienna, Awstria |
Roedd Ludwig van Beethoven (17 Rhagfyr 1770 – 26 Mawrth 1827) yn gyfansoddwr Almaenig o'r cyfnod clasurol, er fod ei gyfansoddiadau yn cael eu ystyried fel enghreifftiau cyntaf y cyfnod Rhamantaidd. Er iddo golli ei glyw yn hanner olaf ei oes, parhaodd i gyfansoddi darnau cyffrous, ac fe'i ystyrir yn un o'r cyfansoddwyr gorau erioed. Ymysg ei weithiau mwyaf enwog mae ei bumed a'i nawfed symffoni, y darn piano "Für Elise", y Sonata "Pathétique" a'r Sonata "Golau Lleuad" ("Moonlight Sonata").