Cwm-carn
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6349°N 3.1299°W |
Cod OS | ST219935 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhianon Passmore (Llafur) |
AS/au y DU | Chris Evans (Llafur) |
Pentref yng nghymuned Aber-carn, bwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Cwm-carn[1] neu Cwmcarn.[2] Fe'i lleolir yn nyffryn Afon Ebwy.
Tyfodd yn sylweddol yn ystod y 19eg ganrif gyda dyfodiad mwyngloddio glo i'r ardal. Mae'n adnabyddus am ei goedwig sy'n tynnu miloedd o ymwelwyr a beicwyr mynydd pob blwyddyn.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Chris Evans (Llafur).[4]
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd anheddiad sylweddol yng Nghwmcarn yn ystod Oes yr Efydd pan symudodd llwythi lleol o wastadiroedd Gwent i ucheldiroedd Mynydd y Grug, Mynydd Machen a Mynydd Maen (Twmbarlwm), gan arwain at adeiladu bryngaer gan y Silwriaid ar Twmbarlwm yn ystod Oes yr Haearn (900-55 CC).
Cymerodd y Rhufeiniaid reolaeth ar y rhan fwyaf o dde-ddwyrain talaith Britannia yn 43 OC, ond cymerodd 25 mlynedd arall cyn iddynt ennill rheolaeth dros gymoedd de Cymru. Roedd yr Ymerodraeth Rufeinig mewn grym hyd iddynt dynnu'n ôl yn y 5g; wedi hyn, sefydlwyd Teyrnas Gwent a Glywysing. Diffinid ffiniau Gwent gan Afon Wysg ac Afon Gwy, a Glywysing oedd y tir rhwng Afon Wysg ac Afon Tawe. Lleolid Cwmcarn, rhwng dyffryn Carn a Glyn Ebwy, o fewn teyrnas Glywysing.
Yn dilyn goresgyniad de-ddwyrain Cymru gan y Normaniaid, cafodd pentrefi Abercarn, Cwmcarn a Trecelyn y teitl maenorol, "Abercarn". Roedd y tri phentref hefyd o fewn ffiniau hen arglwyddiaeth Mynydd Islwyn, a chadwodd yr ardal yr enw hwnnw tan yn weddol ddiweddar. Mae cyfrifiadau'r ardal i'w canfod, o 1841 ymlaen dan yr enw Mynydd Islwyn, yn archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Glo
[golygu | golygu cod]Mae Cwmcarn yn gorwedd ar ymyl de-ddwyreiniol maes glo de Cymru. Dechreuwyd datblygu glofeydd yn ardal Cwmcarn ym 1836, gyda glofa Abercarn 6, 180 troedfedd o ddyfnder, yng ngwythïen y "Rock" (neu'r "Tillery"), yn y Prince of Wales Colliery yn Abercarn, gan y Monmouthshire Iron and Coal Company. Roedd y siafftiau'n treiddio 843 troedfedd i mewn i'r hyn a elwid y "Black Vein". Cloddwyd yr ail siafft, y 'No.4 Steam and Black Vein', gan yr Ebbw Vale Steel Iron & Coal Company. Cafodd y glofa ei redeg fel un, hyd i Partridge Jones and John Paton and Company ei brynu ym 1935. Caewyd y glofa gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol ym mis Tachwedd 1968, a clirwyd y safle gan nad oedd yn economaidd i'w redeg bellach.
Mae Gyrfa Goedwig Cwmcarn yn gorwedd ar ben safle'r hen siafftiau, ac mae adfeilion ac olion hen adeiladau'r glofa'n dal i'w gweld ar y llethr uwchben yr hen siafft. Saif llyn i lawr yr afon o hen olchfa'r glofa ac erbyn hyn mae'n cael ei stocio gan Gymdeithas Pysgota Cwmcarn.
Cynhyrchu
[golygu | golygu cod]Roedd y ffatri telecoms sy'n sefyll rhwng Afon Ebwy a'r ffordd A467 yn rhan o Swyddfa'r Post a British Telecom cyn iddi gael ei gwerthu i Nortel, STC, ac yn ddiweddarach Solectron. Caewyd y ffatri yn ystod gwanwyn 2007.
Twristiaeth
[golygu | golygu cod]Lleolir atyniad poblogaidd Gyrfa Goedwig Cwmcarn i'r dwyrain o'r pentref. Mae'r gyrfa 7 milltir o hyd ac yn mynd trwy'r bryniau a'r goedwig ar ochr mynydd Twmbarlwm, ac mae yng ngofal y Comisiwn Coedwigaeth. Mae cryn ddatblygu wedi bod yno yn ddiweddar, gan gynnwys adeiladu llwybr beicio mynydd lawr allt "Y Mynydd Mojo", sydd wedi cynyddu'r nifer o ymwelwyr. Mae'r ganolfan ymwelwyr yn cynnwys caffi, ac fe gostiodd £2 miliwn i'w adeiladu.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Canolfan Ymwelwyr Gyrfa Goedwig Cwmcarn Archifwyd 2009-01-06 yn y Peiriant Wayback
- Beicio Mynydd yng Nghwmcarn, MBWales Archifwyd 2008-06-15 yn y Peiriant Wayback
Trefi
Aber-carn · Bargod · Bedwas · Caerffili · Coed-duon · Crymlyn · Rhisga · Rhymni · Ystrad Mynach
Pentrefi
Aberbargoed · Abertridwr · Abertyswg · Argoed · Bedwellte · Brithdir · Cefn Hengoed · Cwm-carn · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-meistr · Rhydri · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Ty'n-y-coedcae · Wyllie · Ynys-ddu