Emilio Oribe
Emilio Oribe | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ebrill 1893 Melo |
Bu farw | 24 Mai 1975, 25 Mai 1975 Montevideo |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg, bardd, athronydd, academydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gran Cruz de la Orden del Mérito Civil, Q121537149 |
Bardd, beirniad llenyddol, ac ysgrifwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Emilio Oribe (1893 – 1975).
Ganwyd ym Melo, ac astudiodd feddygaeth ym Montevideo, er na aeth erioed yn feddyg. Aeth i Frwsel i fod yn swyddog gwyddonol yn llysgenhadaeth Wrwgwái. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Alucinaciones de belleza, yn 1912. Dychwelodd i Wrwgwái i addysgu athroniaeth a gweithio i'r Cyngor Addysg Cenedlaethol. Dylanwadwyd ar ei farddoniaeth a'i ysgrifau gan athronwyr Groeg yr Henfyd a'r Oesoedd Canol, fel y gwelir yn Transcendencia y platonismo en poesía (1948) a Tres ideales estéticos (1958). Ymhlith ei weithiau eraill mae Teoría del nous (1934), Fugacidad y grandeza (1941), El mito y el logos (1945), La medusa de Oxford (1950), Ars magna: Poemas (1950), ac Antología poética (1965).[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) William H. Katra, "Oribe, Emilio (?–1975)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 28 Ebrill 2019.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Isabel Sesto Gilardoni, Emilio Oribe: El poeta (Montevideo: Barreiro y Ramos, 1981).