Fitamin B12
Math | cobalamin, metabolite, fitamin B, cyfansoddyn cemegol |
---|---|
Màs | 1,355.38 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fitamin o deulu fitamin B yw fitamin B12 (gelwir hefyd yn cobalamin). Fel pob fitamin, mae ei angen ar y corff er mwyn gweithio'n iawn. Mae'n chwarae rhan allweddol yng ngwaith yr ymennydd, system nerfol a ffurfiad gwaed.[1]
Ni all planhigion greu Fitamin B12. Mae gan bacteria ac archaea yr ensymau angenrheidiol ar gyfer synthesis cobalamin a nhw, felly, yw unig ffurf cynhyrchu'r fitamin. Gall blanhigion amsugno B12 trwy dyfu mewn compost fertilizer. Mae ffrwythau o'r rhywogaeth Physalis peruviana yn cynnwys Fitamin B12.
Yn gemegol, Fitamin B12 yw'r fitamin fwyaf a'r mwyaf cymhleth yn strwythurol a gall dim ond gael ei greu drwy eplesiad bacteriayddol.
Biocemeg
[golygu | golygu cod]Mae Fitamin B12 yn cynnwys cobalt, sy'n elfen biogemegol prin sy'n cynnwys grŵp o gyfansoddion cemegol sy'n perthyn. Gall y rhain i gyd cael eu trawsnewid i fewn i'w gilydd ac mae ganddynt i gyd weithredoedd fitamin. Mae bacteria fel rheol yn cynhyrchu hydroxocobalamin, gall gael ei gynhyrchu'n ddiwydiannol yn synthetiaidd i cyanocobalamin. Dydy cyanocobalamin ddim yn ymddangos ym myd natur ond dyma'r Fitamin B12 mwyaf ei ddefnydd. Wrth ei dreilio fe'i drawsnewidir few i methylcobalamin ac adenosylcobalamin. Gall Hydroxocobalamin, methylcobalamin, ac adenosylcobalamin hefyd ymddangos mewn cynnyrch ac ychwanegolion fferyllyddol.
Mae'r fitamin B12 yn cael ei amsugnoi'r corff gan brotein sy'n asio'r fitamin â'r derbynnydd cell yn y colyddyn ac yn adnabod y ffrwythiant IF-B12.[2] Caiff y fitamin ei drosglwyddo yn y gwaed gan y protin gwaed transcobalamin.
Afiechydon Diffig B12
[golygu | golygu cod]Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu cyflenwad o Fitamin B12 drwy fwyaf cig, llaeth, pysgod ac wyau.[3] Rhaid i llysfytawyr a figaniaid gymryd ychwanegolion B12 yn artiffisial yn eu deiet er mwyn arbed eu hunain rhag afiechyd.
Mae diffyg y fitamin B12 mewn deiet person yn achosi nifer o afiechydon gan gynnwys anemia megaloblastic.[4] Gall diffyg fitamin B12 achosi niwed difrifiol a di-droi-nôl, yn enweidg i'r ymenydd a'r system nerfus.[5] Ar lefel ychydig yn is na'r normal, gall achosi amrywiaeth o symptomau megis gor-flinder (fatigue meddygol), iselder meddwl, cof gwael, colli anadl, cur pen a chroen gwelw yn enwedig mewn pobl dros 60 oed[6] sy'n creu llai o asid yn y stumog wrth iddynt heneiddio, a felly, yn cynyddu y tebygolrwydd o ddiffyg Fitamin B12. Gall diffyg Fitamin B12 hefyd achosi symptomau o mania a psychosis.[7]
Ceir bwydydd sy'n cael eu cryfhau gydag ychwanegolion Fitamin B12 megis grawnfwyd brecwast, cynnyrch soy, bariau ynni a burum arbennig.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Vitamin B12 deficiency can be sneaky and harmful", Harvard Health Publishing, 23 Mawrth 2022
- ↑ https://videnskab.dk/krop-sundhed/b12-vitamin-gennembrud-kan-hjaelpe-tusindvis-af-danskere
- ↑ https://ods.od.nih.gov/factsheets/VitaminB12-HealthProfessional/
- ↑ http://www.foodcomp.dk/v7/fvdb_foodnutrlist.asp?CompId=0049
- ↑ "Folate, homocysteine and neural tube defects: an overview". Experimental Biology and Medicine 226 (4): 243–70. April 2001. doi:10.1177/153537020122600402. PMID 11368417. http://ebm.sagepub.com/content/226/4/243.
- ↑ "Vitamin B12 or folate deficiency anaemia - Symptoms". National Health Service, England. May 16, 2016. Cyrchwyd February 16, 2017.
- ↑ "Cobalamin-responsive psychosis as the sole manifestation of vitamin B12 deficiency". The Israel Medical Association Journal 3 (9): 701–3. September 2001. PMID 11574992. http://www.ima.org.il/IMAJ/ViewArticle.aspx?year=2001&month=09&page=701.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-16. Cyrchwyd 2018-10-09.