Quaich y Ganrif
Enghraifft o'r canlynol | rugby union trophy or award, digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1989 |
Lleoliad | Iwerddon, Yr Alban |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon |
Mae Quaich y Ganrif ( /k w eɪ x /: Gaeleg yr Alban: Cuach nan Ceud Bliadhna Gwyddeleg: Corn na Céad Bliain Saesneg Centenary Quaich) yn dlws rygbi'r undeb rhyngwladol sy'n cael ei herio'n flynyddol gan Iwerddon a'r Alban fel rhan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Gair Gaeleg am lestr yfed [1] yw "Quaich" ac mae wedi'i gyflwyno i enillwyr y gêm ers 1989.[2] Ers cyflwyno'r gwpan, mae Iwerddon wedi ei hennill 17 o weithiau tra bod yr Alban wedi ei hennill 14 gwaith, gydag un gêm gyfartal.
Mae'r Quaich yn un o nifer o gwpanau tebyg y mae timau unigol yn cystadlu amdanynt fel rhan o gemau rhyngwladol. Mae enghreifftiau eraill ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cynnwys Cwpan Calcutta (Yr Alban v. Lloegr ), Tlws y Mileniwm (Lloegr v Iwerddon), Tlws Giuseppe Garibaldi (Ffrainc v Yr Eidal ) Tlws yr Auld Alliance rhwng Ffrainc a'r Alban a Chwpan Doddie Weir rhwng Yr Alban a Chymru.
Sefydlwyd y wobr i ddathlu 100fed cyfarfod y ddau dîm yn y bencampwriaeth ym 1989, (nid canmlwyddiant y cyfarfod cyntaf, cafodd nifer o gemau blynyddol eu methu oherwydd y ddau ryfel byd).[3]
Nid yw'r tlws yn cael ei rhoi mewn unrhyw gemau y tu allan i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, megis Cwpan y Byd. Cyn cyflwyno'r Quaich am y canfed gêm, bu 45 buddugoliaeth i'r Iwerddon a 49 i'r Alban; bu 4 gêm gyfartal a bu'n rhaid rhoi'r gorau i un gêm.
Y deiliaid presennol yw Iwerddon ar ôl curo'r Alban yn Stadiwm Aviva ar 1 Chwefror 2020.
Gemau
[golygu | golygu cod]Gemau gartref | Wedi chwarae | Buddugoliaethau | Cyfartal | Pwyntiau i | ||
---|---|---|---|---|---|---|
Iwerddon | yr Alban | Iwerddon | yr Alban | |||
Iwerddon | 16 | 10 | 5 | 1 | 387 | 240 |
yr Alban | 16 | 7 | 9 | 0 | 394 | 318 |
Cyfanswm | 32 | 17 | 14 | 1 | 781 | 558 |
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Scottish word of the week: Quaich". The Scotsman. Johnston Publishing. 8 May 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-02. Cyrchwyd 20 February 2016.
- ↑ "Sporting Life - Six Nations 2001". web.archive.org. 2011-06-05. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-05. Cyrchwyd 2021-02-14.
- ↑ Trophy Room RUGBY - CENTENARY QUAICH adalwyd 14 Chwefror 2021
|