Suomen kulttuuri- ja tiedeinstituutit
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2005 |
Sylfaenydd | Llywodraeth y Ffindir |
Isgwmni/au | FinnAgora, The Finnish Institute in London |
Grŵp o 17 o sefydliadau annibynnol, dielw ledled y byd yw Suomen kulttuuri- ja tiedeinstituutit (talfyrrir i SKTI; Cymraeg: Sefydliadau Diwylliannol ac Academaidd y Ffindir). Mae'r sefydliadau yn hyrwyddo ac yn cefnogi symudedd rhyngwladol, gwelededd a chydweithrediad gweithwyr proffesiynol y Ffindir yn y celfyddydau, diwylliant ac ymchwil.[1] Ers hydref 2005, maent wedi ffurfio cymdeithas o sefydliadau diwylliannol ac academaidd y Ffindir sy'n cynrychioli'r Ffindir o fewn European Union National Institutes for Culture (EUNIC).
Amcanion
[golygu | golygu cod]Creu rhwydweithiau a deialog rhwng sefydliadau a gweithwyr proffesiynol diwylliannol ac academaidd y Ffindir a rhyngwladol Trefnu arddangosfeydd, seminarau, cyrsiau a digwyddiadau eraill Cydweithio’n weithredol â sefydliadau lleol, partneriaid, cymunedau a gweithwyr proffesiynol Cynnal rhaglenni symudedd a phreswyl ar gyfer artistiaid, curaduron ac ymchwilwyr Cefnogi cyfleoedd gwaith rhyngwladol gweithwyr proffesiynol celfyddydol ac ymchwilwyr y Ffindir Cynnal ymchwil academaidd
Rhwydwaith y Sefydliadau
[golygu | golygu cod]Mae rhwydwaith y sefydliad yn cynnwys 17 o sefydliadau ar draws y byd:
- (Gwlad Groeg)
- ar gyfer gwledydd y Benelux (Brwsel),
- (Berlin),
- (Budapest)
- (Copenhagen),
- Canolfan Swedeg-Ffineg Hanaholmen yn (Espoo),
- (Llundain)
- Madrid ,
- ar gyfer y Dwyrain Canol, (Beirut),
- (Efrog Newydd),
- Sefydliad Ffinneg-Norwyeg, (Oslo),
- (Paris),
- Rhufain,
- Saint Petersburg (Rwsia),
- Stockholm
- (Tallinn)
- (Tokyo).[2]
Mae Sefydliadau Diwylliannol ac Academaidd y Ffindir (SKTI) yn gymdeithas wedi'i lleoli yn Helsinki sy'n cynorthwyo rhwydwaith yr athrofeydd mewn cyfathrebu, gweinyddu a lobïo yn y Ffindir. Mae'r sefydliadau a SKTI yn cael cymhorthdal gan y Weinyddiaeth Addysg a Diwylliant yn y Ffindir. Mae eu prosiectau yn derbyn cyllid ychwanegol gan sefydliadau preifat o'r Ffindir a thramor, cwmnïau a phartneriaid.
Sefydliadau tebyg
[golygu | golygu cod]Mae Suomen kulttuuri- ja tiedeinstituutit yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ OECD (2017-06-09). OECD Reviews of Innovation Policy OECD Reviews of Innovation Policy: Finland 2017 (yn Saesneg). OECD Publishing. ISBN 9789264276369.
- ↑ "Etusivu in English". Suomen kulttuuri- ja tiedeinstituutit.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Suomen kulttuuri- ja tiedeinstituutit ry instituutit.fi/ (Ffineg, Swedeg, Saesneg)
- In Conversation with the Finnish Institutes: Our Culture to Our People sgwrs ar sianel Youtube Suomen kulttuuri- ja tiedeinstituutit ry
- Facebook instituutit
- Twitter @instituutit