Tsukemono
Math | piclo |
---|---|
Gwlad | Japan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llysiau Japaneaidd wedi'u piclo, fel arfer mewn halen, heli[1][2] neu fran reis, yw tsukemono (
Enwau eraill
[golygu | golygu cod]Yn Japaneg, gelwir tsukemono hefyd yn konomono (
Gwneud tsukemono
[golygu | golygu cod]Er mwyn gwneud tsukemono, mae angen cynhwysydd, halen a rhywbeth i roi pwysau ar ben y picls.[3]
Tsukemonoki (
Rhai carreg neu fetel yw pwysynnau, a chanddynt ddolen ar eu pennau ac maent wedi'u gorchuddio â haen o blastig sy'n addas i'w ddefnyddio gyda bwyd. Mae gwasg blastig fodern i'w gael hefyd. Troir sgriw ac mae'r wasg wedyn yn clampio i lawr ar y piclau i roi'r pwysau arnynt.[3]
Asazuke yw'r enw ar ddull piclo sy'n creu piclau o fewn amser byr.
Math | Kanji | Cynhwysyn piclo |
---|---|---|
shiozuke | halen | |
suzuke | finegr | |
amasuzuke | siwgr a finegr | |
misozuke | miso | |
shoyuzuke | saws soia | |
kasuzuke | gwaddod sake | |
kojizuke | reis wedi'i feithrin â llwydni | |
nukazuke | bran reis | |
karashizuke | からし |
mwstard poeth |
Ssatozuke | siwgr |
Mathau o tsukemono
[golygu | golygu cod]Ymhlith hoff biclau pobl i'w bwyta gyda reis fel cyfwyd, mae takuan (rhuddygl daikon), umeboshi (eirin ume), maip, ciwcymbrau a bresych Tsieineaidd.
Defnyddir beni shōga (sinsir coch wedi'i biclo mewn heli umeboshi) fel garnais ar okonomiyaki, takoyaki ac yakisoba.
Mae gari (sleisiau tenau o sinsir ifanc mewn marinâd o siwgr a finegr) yn cael ei ddefnyddio rhwng prydau o swshi i lanhau'r geg.
Ceir rakkyōzuke (math o winwnsyn wedi'i biclo) yn aml gyda chyrri Japaneaidd. Mae ychydig yn sur a melys â blas ysgafn a ffres oherwydd ei fod yn cael ei gadw mewn finegr a mirin, sydd hefyd yn cael gwared ar ei chwerwder. Fe'i defnyddir i gydbwyso blasau cryfach rhannau eraill o bryd.
Cymysgedd o daikon, planhigyn wy, gwreiddyn lotws a chiwcymbr wedi'i biclo mewn saws soia yw fukujinzuke.
Math o daikon wedi'i biclo yw bettarazuke, sy'n boblogaidd yn Tokyo.
Daw'r saig matsumaezuke o Matsumae, Hokkaido, ac mae'n cael ei wneud o surume (môr-lawes sych), konbu(celp), kazunoko (gronell penwaig), moron a sinsir gyda chymysgedd o sake, saws soia a mirin .
Llysieuyn deiliog wedi'i biclo yw nozawana, sy'n nodweddiadol o dalaith Nagano.
Tariffau tsukemono
[golygu | golygu cod]Yn ôl diffiniadau cod masnach yr Unedb Ewropeaidd a'r Unol Daleithiau, mae tsukemono yn dod dan ddosbarthiad "llysiau wedi'u piclo" yn hytrach na "phiclau" gan nad ydynt wedi'u piclo'n bennaf mewn asid asetig na finegr distyll. Mae ganddynt gyfradd dreth wahanol i bicls gorllewinol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Reid, Libby (August 2008). TSUKEMONO: A Look at Japanese Pickling Techniques (PDF). Kanagawa International Foundation. t. 4. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2010-11-24. Cyrchwyd 2024-04-02.
- ↑ www.japan-guide.com; adalwyd 5 Ebrill 2024.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 Hisamatsu, Ikuko (2013). Tsukemono Japanese Pickling Recipes. Japan: Japan Publications Trading Co., LTD. and Boutique-sha, Inc. t. 6. ISBN 978-4-88996-181-2.
- ↑ justhungry.com; adalwyd 5 Ebrill 2024.
- ↑ [https://kyototips.com/a-guide-to-tsukemono/ kyototips.com; adalwyd 5 Ebrill 2024.