Arwyddlun Tsieineaidd
![](https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/99/Hanzi.svg/240px-Hanzi.svg.png)
Arwyddlun Tsieineaidd neu Hanzi yw'r geirarwyddion (logogramau) a ddefnyddir i ysgrifennu ieithoedd Tsieina. Rhennir Hanzi yn arwyddluniau traddodiadol a symledig.
Gellir rhannu arwyddluniau Tsieineaidd yn bum categori:
- pictogramau (yn cyfleu darlun):
月 = lleuad,日 = haul - ideogramau syml (yn cyfleu syniad):
下 = oddi tan,上 = uwchben - ideogramau cyfansawdd:
日 +月 =明 = clir - ffonogramau (yn cyfleu ystyr trwy wreiddyn a rhan ffonetig)
- e.e.:
女 (gwreiddyn: ‘merch’ + 马 (elfen ffonetig ‘ma’ (ceffyl)) = 妈 ‘mam’
- e.e.:
- arwyddluniau benthyg: i gyfleu syniadau haniaethol, defnyddir arwyddlun sydd eisoes mewn bodolaeth
- e.e.:
象 (eliffant) hefyd yn cael ei ddefnyddio am “yn debyg i”
- e.e.:
Ffonogramau yw tua 90% o'r arwyddluniau a ddefnyddir heddiw. Mae tua 56,000 o arwyddluniau Hanzi wedi eu cofnodi, rhai ohonynt yn rhai na ddefnyddir mwyach. Byddai angen gwybod tua 3,000 o arwyddluniau i ddarllen papur newydd Tsieineaidd, tra disgwylid i Tsieinëeg diwylliedig wybod tua 7,000 ar gyfartaledd.
Symleiddiwyd yr arwyddluniau yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina yn 1950 dan Mao Zedong. Defnyddir y dull symledig yn Singapôr hefyd, ond mae Taiwan yn defnyddio'r dull traddodiadol.
Kanji yw'r enw a roddir ar arwyddluniau Tsieinëeg a gaiff eu defnyddio yn system ysgrifennu Japaneg.