Mae'r ymadrodd yn amwys o fwriad fel ei bod yn dderbyniol ar naill ochr Culfor Taiwan. Er i Taiwan wrthod yr enw i ddechrau, cytunodd ym 1981 a chafodd ei ddefnyddio'n gyntaf yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 1984.[1] O safbwynt Gweriniaeth Pobl Tsieina, nid yw'r enw yn dynodi statws annibynnol Taiwan nac yn cyfeirio at sofraniaeth y diriogaeth honno, ac felly'n cydymffurfio â pholisi "Un Tsieina" llywodraeth Beijing, sy'n parháu i hawlio'r ynys. Roedd y Kuomintang, plaid lywodraethol Taiwan adeg y cytundeb, yn gweld yr enw yn eang ei ystyr ac yn awgrymu taw un rhan o Tsieina'n unig oedd Taiwan, gan yr oedd y blaid yn ystyried ei hun yn wir lywodraeth holl Tsieina. Croesawodd Beijing y cyfle i atal defnydd yr "enw cenedlaethol" Taiwan yn llygad y byd, ac yr oedd Taipei yn fodlon i beidio â defnyddio'r dewis arall "Taiwan, Tsieina", a ellir ei weld yn disgrifio Taiwan yn rhan o Weriniaeth Pobl Tsieina.[2]