(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Barddoniaeth - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Barddoniaeth a ddiwygiwyd gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau) am 13:49, 1 Rhagfyr 2021. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Barddoniaeth
Enghraifft o'r canlynolffurf llenyddiaeth, disgyblaeth academaidd Edit this on Wikidata
Mathgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Barddoniaeth ydy'r gelfyddyd o fynegi'n brydferth y meddyliau a gynhyrchir gan y teimlad a'r dychymyg, fel arfer ond nid bob amser gyda llinellau o hyd arbennig, rythm arbennig a'r llinellau yn odli. Mae rhai wedi disgrifio barddoniaeth fel ffordd arbennig o drin geiriau. Ymhlith y technegau y gall bardd eu defnyddio mae cymariaethau, trosiadau, odl, cyflythreniad ac ailadrodd.

Ymhlith y mathau o fesurau barddoniaeth y gellir eu cael mae englyn, haiku, telyneg, soned, cywydd, a baled.

Barddoniaeth Gymraeg

[golygu | golygu cod]

Daw'r enghreifftiau cynharaf o farddoniaeth Gymraeg o'r 6g, sef Canu Aneurin a Chanu Taliesin. Tua'r 9g cafwyd Canu Llywarch Hen a Chanu Heledd. Gelwir y beirdd o'r cyfnod cynnar yn Gynfeirdd a'r beirdd yng nghyfnod y tywysogion yn Ogynfeirdd. Gelwir beirdd yr oes wedi cwymp Llywelyn 1282 yn Feirdd yr Uchelwyr. Ysgrifennau Beirdd yr Uchelwyr megis Dafydd ap Gwilym a Iolo Goch llawer o gywyddau. Bu trai ar ysgrifennu barddoniaeth ar ôl uno Cymru a Lloegr. Rhaid cofio serch hynny bod emynau yr emynwyr yn farddoniaeth aruchel, yn enwedig gwaith William Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths. Ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g caed dadeni gyda beirdd fel T. Gwynn Jones. Nes ymlaen yn y ganrif roedd T. H. Parry-Williams a Gwenallt yn ysgrifennu, a thua chanol y ganrif bardd mawr arall oedd Waldo Williams. Mae llu o feirdd wedi ysgrifennu barddoniaeth o safon uchel o hynny hyd at ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, nifer ohonynt yn ysgrifennu mewn cynghanedd.

Yn y Gymraeg ceir Cynghanedd, rhywbeth sy'n unigryw i'r Gymraeg.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Chwiliwch am barddoniaeth
yn Wiciadur.