Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010 | |
---|---|
"Share The Moment" ("Rhannwch Y Foment") | |
Dyddiad(au) | |
Rownd cyn-derfynol 1 | 25 Mai 2010 |
Rownd cyn-derfynol 2 | 27 Mai 2010 |
Rownd terfynol | 29 Mai 2010 |
Cynhyrchiad | |
Lleoliad | Arena Telenor, Bærum, Oslo, Norwy |
Cyflwynyddion | Erik Solbakken Haddy N'jie Nadia Hasnaoui[1] |
Cystadleuwyr | |
Tynnu'n ôl | Andorra Gweriniaeth Tsiec Hwngari Montenegro |
Canlyniadau | |
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010 oedd y 55ain Cystadleuaeth Cân Eurovision. Fe'i cynhaliwyd rhwng 25 a 29 Mai 2010 yn Oslo, Norwy[2], Norwy. Thema'r gystadleuaeth oedd "Share The Moment" ("Rhannwch Y Foment" yn Gymraeg). Bu 39 gwlad yn cystadlu yn y gystadleuaeth. Dychwelodd Georgia i'r gystadleuaeth ar ôl blwyddyn o absenoldeb, ond ni chystadlodd Andorra, y Weriniaeth Tsiec, Hwngari na Montenegro.
Cyhoeddodd yr Undeb Ddarlledu Ewropeaidd (EBU) y byddai'n ceisio perswadio cwmnïau darlledu'r Eidal, Lwcsembwrg, Monaco ac Awstria i ddychwelyd yn 2010[3] ond ni bu'r trafodion hyn yn llwyddiannus am amryw o resymau. Erbyn 13 Mai 2009, roedd yr EBU wedi cadarnhau na allai Kazakhstan, Qatar a gwledydd tebyg gystadlu am eu bod yn disgyn y tu allan i'r Ardal Ddarlledu Ewropeaidd. Nid oedd gwledydd newydd posib yn gymwys[4] .
Man cyfarfod
[golygu | golygu cod]Ar 3 Gorffennaf 2009, penderfynodd cwmni darlledu Norwy, NRK, gynnal y gystadleuaeth yn y Fornebu Arena (a arferai gael ei alw'n Arena Telenor), Bærum, yn agos i ganol dinas Oslo.[5] Cyhoeddodd gweinidog diwylliant Norwy, Trond Giske, yn wreiddiol y byddai cyllideb o €17 miliwn (150 miliwn Kroner) yn cael ei gwario ar y gystadleuaeth, cyfanswm llai nag a wariwyd ar gystadleuaeth Moscow 2009 ond yn fwy na chystadleuaeth Helsinki 2007[6]. Ar 27 Mai amcangyfrifwyd mai 211 miliwn kroner (€24 miliwn) oedd gwir gost y gyngerdd.[7]
Dyluniad
[golygu | golygu cod]Dangoswyd y thema a'r slogan gan NRK ar 4 Rhagfyr 2009 yn ystod y Gyfnewidfa Arwyddluniau Dinasoedd Cynhalwyr y gystadleuaeth rhwng meiri Moscow, Oslo a Bærum. Symboleiddiodd hyn ddechrau swyddogol tymor Cystadleuaeth Gân Eurovision 2010. Dewiswyd y thema, casgliad cylchau sydd yn croesi, i 'gynrychioli pobl yn dod at ei gilydd ac emosyinau amrywiol Cystadleuaeth Gân Eurovision'.[8] Cyhoeddwyd rhagolwg y llwyfan ar 6 Mai 2010. Doedd y llwyfan ddim yn defnyddio sgriniau LED ond roedd yn cynnwys technegau golau.[9]
Cyflwynwyr
[golygu | golygu cod]Roedd llawer o syniadau yn y wasg Norwyaidd am gyflwyr posib ar gyfer cystadleuaeth 2010. Crybwyllwyd enwau cyflwynwyr NRK Jon Almaas a Fredrick Skavlan, ac enillodd cyflwynwyr poblogaidd TV 2 Thomas Numme a Harald Rønneberg arolwg barn Dagbladet (papur newydd Norwyaidd) ar ei wefan.[10]
Cyhoeddodd NRK enwau'r cyflwynwyr ar 10 Mai 2010, sef Erik Solbakken, Haddy N'jie a Nadia Hasnaoui. Roedd Solbakken a N'jie i fod i agor y sioeau, cyflwyno'r artistiaid a rhoi adroddiadau o'r ystafell werdd. Rhan Hasnaoui oedd cyflwyno'r pleidleisiau a'r bwrdd sgôr. Dyma'r ail dro i'r Eurovision gael ei chyflwyno gan fwy na dau gyflwynydd ers Cystadleuaeth Cân Eurovision 1999.
Fformat
[golygu | golygu cod]Ar 7 Chwefror 2010 rhannwyd y gwledydd ym bum grŵp yn ôl patrymau pleidleisio yn y cystadlaethau blaenorol. Yna, tynnwyd enwau allan o'r pum pot i benderfynu pa wledydd fyddai'n cymryd rhan yn y rownd gyn-derfynol gyntaf a pa rai fyddai'n cael lle yn yr ail rownd gyn-derfynol. Penderfynwyd hefyd ym mha rownd gyn-derfynol y byddai'r Pedwar Mawr (Y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Sbaen a'r Almaen) a'r gwesteiwyr Norwy yn pleidleisio yn dilyn fformat 2009.
Pot 1 | Pot 2 | Pot 3 | Pot 4 | Pot 5 |
---|---|---|---|---|
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]Cadarnhaodd 39 gwlad eu bwriad i gymryd rhan yng nghystadleuaeth 2010.
Y Rownd Gyn-derfynol Gyntaf
[golygu | golygu cod]- Cynhaliwyd y rownd gyn-derfynol gyntaf yn Oslo ar 25 Mai 2010.
- Aeth y deg gwlad a dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau i'r rownd derfynol.
- Pleidleisiodd yr Almaen, Ffrainc a Sbaen yn y rownd gyn-derfynol hon.
- Dengys y lliw peach pa wledydd aeth drwyddo i'r rownd derfynol.
Yr Ail Rownd Gyn-derfynol
[golygu | golygu cod]- Cynhaliwyd yr ail rownd gyn-derfynol yn Oslo ar 27 Mai 2010.
- Aeth y deg gwlad a dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau i'r rownd derfynol.
- Pleidleisiodd Y Deyrnas Unedig a Norwy yn y rownd gyn-derfynol hon.
- Dengys y lliw peach pa wledydd aeth drwodd i'r rownd derfynol.
Y Rownd Derfynol
[golygu | golygu cod]- Digwyddodd y rownd derfynol yn Oslo ar yr 29 Mai am 21:00 (CEST). Cyflwynwyd y sioe gan Erik Solbakken, Haddy N'jie a Nadia Hasnaoui.
- Y gwledydd a berfformiodd yn y rownd derfynol oedd:
- Y "Pedwar Mawr" (Ffrainc, yr Almaen, Sbaen a'r Deyrnas Unedig).
- Y wlad a oedd yn cynnal y gystadleuaeth, Norwy.
- Yr ugain gwlad a dderbyniodd y mwyaf o bleidleisiau ffôn a'r pleidleisiau'r rheithgorau yn y rowndiau cyn-derfynol.
- Dewiswyd yr enillwr trwy gyfuniad o bleidleisiau ffôn a phleidleisiau rheithgorau proffesiynol.
- Gallai'r gynulleidfa wedi pleidlesio'n ystod y perfformiadau a 15 munud ar ôl y perfformiadau hefyd.
- Dengys y wlad a enillodd y gystadleuaeth mewn lliw peach.
- A ^ Perfformiodd Sbaen ddwywaith (perfformiwyd eto ar ôl Denmarc) oherwydd i Jimmy Jump ddringo i'r llwyfan i gyd-ddawnsio gyda'r artistiaid yn ystod y perfformiad cyntaf.
Pleidleisio'n ystod y rownd derfynol
[golygu | golygu cod]Cyhoeddwyd pleidleisiau'r gwledydd yn y drefn canlynol:[11]
Sylwebwyr
[golygu | golygu cod]- Albania : Leon Menkshi
- Awstralia : Julia Zemiro a Sam Pang
- Bosnia a Hercegovina : Dejan Kukrić
- Croatia : Duško Ćurlić
- Cyprus : Nathan Morley (Radio CyBC)
- Denmarc : Nikolaj Molbech
- Deyrnas Unedig: Paddy O'Connell a Sarah Cawood (y rowndiau cyn-derfynol), a Graham Norton (teledu) a Ken Bruce (radio) (y rownd derfynol)
- Estonia : Marko Reikop
- Ffrainc : Peggy Olmi, Yoann Renoard (y rowndiau cyn-derfynol), Cyril Hanouna a Stéphane Bern (y rownd derfynol)
- Gwlad Belg : André Vermeulen a Bart Peeters (Fflandrys) a Jean-Pierre Hautier a Jean-Louis Lahaye (Walonia)
- Gwlad Groeg : Rika Vagiani
- Gwlad Pwyl : Artur Orzech
- Gwlad yr Iâ : Sigmar Guðmundsson
- Hwngari : Zsolt Jeszenszky
- Iwerddon: Marty Whelan (teledu) a Maxi (radio)
- Latfia : Karlis Streips
- Lithwania : Darius Užkuraitis
- Gogledd Macedonia : Karolina Petkovska
- Malta : Valerie Vella
- Norwy : Olav Viksmo-Slettan
- Portiwgal : Sérgio Mateus
- Rwmania : Leonard Miron a Gianina Corondan
- Rwsia : Dmitry Guberniev and Olga Shelest
- Serbia : Duška Vučinić-Lučić (y rownd cyn-derfynol cyntaf a'r rownd derfynol) a Dragoljub Ilić (yr ail rownd cyn-derfynol a'r rownd derfynol)
- Slofacia : Roman Bomboš
- Slofenia : Andrej Hofer
- Sbaen : José Luis Uribarri
- Sweden : Edward af Sillen a Christine Meltzer
- Twrci : Bülend Özveren
- Y Ffindir : Jaana Pelkonen, Asko Murtomäki a Tobias Larsson
- Y Swistir : Sven Epiney
- Yr Almaen : Peter Urban
- Yr Iseldiroedd : Daniël Dekker and Cornald Maas
Ciliadau
[golygu | golygu cod]Gwlad | Nodiadau |
---|---|
Andorra | Mae darlledwr Andorra wedi cael cwtogiadau yn eu cyllidebau o tua 10%. O achos hyn, ni fydd Andorra yn cyfranogi. |
Awstria | [12] |
Gweriniaeth Tsiec | [13] |
Hwngari | – |
Liechtenstein | Mae Liechtenstein yn ceisio ymuno â'r UDE a bydd y wlad yn cystadlu pan fydd hi'n aelod, mwy na thebyg yn 2011/2012. Mae hi'n barod i ddechrau cystadlu gyda chystadleuaeth cenedlaethol sy'n debyg i'r sioe Almaenaidd Deutschland sucht den Superstar. |
Lwcsembwrg | [14] |
Monaco | [15] |
Montenegro | – |
San Marino | [16] |
Darllediadau
[golygu | golygu cod]Gwlad | Nodiadau |
---|---|
Awstralia | Ni all Awstralia'n gystadlu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision ond bydd Special Broadcasting Service (SBS) yn darlledu'r gystadleuaeth.[17] |
Seland Newydd | Ni all Seland Newydd gystadlu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision ond bydd Triangle TV yn darlledu'r gystadleuaeth ar ei sianel lloeren STRATOS. |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Nadia, Haddy and Erik to host 2010 Eurovision Song Contest
- ↑ "Eurovision Song Contest 2010 dates confirmed" Archifwyd 2009-05-29 yn y Peiriant Wayback, ESCToday.com, 2009-05-27. Adalwyd ar 2009-05-27.
- ↑ EBU working for Eurovision full house in 2010
- ↑ EBU and Eurovision.tv press-conference
- ↑ Breaking news: Fornebu Arena to host Oslo 2010
- ↑ "The ship sets sail". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-07. Cyrchwyd 2009-05-29.
- ↑ NRK estimates cost of Eurovision Song Contest at 24 mill. Euro
- ↑ Oslo 2010 theme revealed: Share The Moment
- ↑ NRK presents Eurovision stage to the press
- ↑ Hun eller han må se bra ut
- ↑ "Live: Draw of the running order". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-08. Cyrchwyd 2010-04-13.
- ↑ "Confirmed: Austria will not take part in 2010". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-23. Cyrchwyd 2009-10-02.
- ↑ "Czech Republic withdraws from Eurovision". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-23. Cyrchwyd 2009-07-23.
- ↑ "RTL suddenly decided; not going to Oslo". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-06. Cyrchwyd 2009-10-02.
- ↑ "TMC not coming back for 2010 Eurovision edition". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-06. Cyrchwyd 2009-10-02.
- ↑ News Eurovision Russia 2009
- ↑ SBS and Triangle Stratos tv Australia & New Zealand: Eurovision 2010 down under Archifwyd 2010-02-26 yn y Peiriant Wayback, ESCToday
|