(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Darius I, brenin Persia - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Darius I, brenin Persia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Darius Fawr)
Darius I, brenin Persia
Ganwyd550 CC Edit this on Wikidata
Bu farw486 CC Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Ymerodraeth Achaemenaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwladweinydd, arweinydd milwrol, teyrn Edit this on Wikidata
SwyddKing of Kings, Pharo Edit this on Wikidata
TadHystaspes Edit this on Wikidata
PriodAtossa, Artystone, Parmys, Phaedymia Edit this on Wikidata
PlantXerxes I, brenin Persia, Abrocomes, Arsames, Gobryas, Artobazanes, Ariabignes, Artazostre, Masistes, Achaemenes, Hyperanthes Edit this on Wikidata
LlinachBrenhinllyn yr Achaemenid Edit this on Wikidata

Pedwerydd brenin Ymerodraeth Persia oedd Darius I, Perseg: داریوش , Hen Roeg: Δでるたαあるふぁρろーεいぷしろんῖος, Dareios (c. 549 CC - 486 CC). Mae'n fwyaf adnabyddus fel y brenin a arweiniodd ymgyrch gyntaf y Persiaid yn erbyn y Groegiaid.

Roedd Darius, oedd yn fab i Hystaspes, yn wreiddiol yn swyddog ym myddin Cambyses II, a bu'n ymgyrchu gydag ef yn yr Aifft. Tra'r oedd Cambyses yn ymgyrchu, gwrthryfelodd ei frawd Smerdis (Bardiya) yn ei erbyn. Ceir yr hanes gan Darius, a ddaeth i'r orsedd o ganlyniad i'r digwyddiadau hyn. Dywed Darius i Cambyses gychwyn yn ôl i wrthwynebu Smerdis, ond iddo ei ladd ei hun pan welodd nad oedd gobaith iddo ennill. Dywed Herodotus iddo farw mewn damwain.

Daeth Darius yn arweinydd byddin Cambyses, a llwyddodd i orchfygu Smerdis a'i ladd, a chymeryd yr orsedd. Adeiladodd brifddinas newydd Persepolis. Bu nifer o wrthryfeloedd yn ystod ei deyrnasiad; gwrthryfelodd Babilon fwy nag unwaith. Ymestynnodd ffiniau'r ymerodraeth ymhellach; arweniodd ei fyddinoedd cyn belled a dyffryn Afon Indus a meddiannodd Thrace yn Ewrop. Methodd ymgyrch yn erbyn Groeg pan orchfygwyd byddin Bersaidd ym Mrwydr Marathon yn 490 CC. Olynwyd ef gan ei fab, Xerxes I.

Rhagflaenydd:
Smerdis
Brenin Ymerodraeth Achaemenid Persia
522 CC486 CC
Olynydd:
Xerxes I
Rhagflaenydd:
Smerdis
Brenin yr Aifft
522 CC486 CC
Olynydd:
Xerxes I